Comisiynwyd yr adroddiad gan y Cyngor Crefft a’i bartneriaid (sy’n gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru). Roedd yn ystyried maint, gwerth a phosibiliadau tyfu a datblygu’r farchnad.

Cynhaliwyd arolwg o dros 5,000 o brynwyr posibl a chyfweld â 1,700 o wneuthurwyr dros Brydain. Dyma’r tro cyntaf i ymchwil i'r farchnad gwmpasu pedair wlad y Deyrnas Unedig. Roedd yr arolwg ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae'r adroddiad yn dangos bod:

  • 73% wedi prynu crefftwaith yn 2019
  • bod prynu crefftau wedi mynd yn fwy poblogaidd
  • bod y prynwyr yn tueddu bod yn iau (gyda 32% dan 35 oed)

Gemwaith yw'r maes sy’n gwerthu fwyaf ond gwydr a metel sydd wedi cael y twf mwyaf.

Meddai Louise Wright, Rheolwr Portffolio, Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae Cymru yn llawn o wneuthurwyr sy'n creu amrywiaeth o waith ac yn cynnig gwasanaethau gwych. Maent yn cefnogi’r economi leol ac ehangach. Maent hefyd yn diwallu awydd y cyhoedd i gefnogi busnesau bach a phrynu pethau dilys a chynaliadwy."

"Mae'r adroddiad yn rhoi dealltwriaeth newydd inni o'r farchnad ac yn dangos inni ei hanghenion a’i phosibiliadau o ran tyfu. Nawr mae gennym gyfle i weithio gyda phartneriaid a gwneuthurwyr i sicrhau y gall crefftwyr barhau i weithio a gwerthu yn sgil brecsit a choronafeirws."

Crynodeb Weithredol: https://www.craftscouncil.org.uk/content/files/CC-Market_for_Craft_-_Executive_Summary_-_Welsh.pdf

Adroddiad Llawn (Saesneg): https://www.craftscouncil.org.uk/content/files/CC-Market_for_Craft-Final.pdf