Mae'r rhestr yn eang ac yn ysbrydoledig. Mae’n cynnwys unigolion a sefydliadau ac mae llawer sy’n cynrychioli'r sector celfyddydol a diwylliannol.
Heddiw meddai Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Dafydd Rhys, ei fod yn falch bod tri aelod o staff Cyngor Celfyddydau Cymru ac aelod o’r Cyngor yn cael eu cynnwys ar y rhestr.
Heddiw dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:
"Mae'n destun balchder mawr i mi fod Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr Datblygu'r Celfyddydau, a Ruth Fabby, aelod o’n Cyngor, yn cael eu cydnabod gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ac wedi’u cynnwys ar y rhestr o 100 o Ysgogwyr Newid Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r ddau wedi cyfrannu'n sylweddol at egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol – Lleucu, drwy ei llwyddiant yn hyrwyddo'r saith nod llesiant a Ruth, yn ei swydd flaenorol fel Prif Weithredwr Celfyddydau Anabledd Cymru sy’n hyrwyddo pwysigrwydd hawliau pobl anabl fel hawliau dynol a dangos y cysylltiadau rhwng celf a newid cymdeithasol.
"Rwyf hefyd wrth fy modd nad un, ond dau aelod arall o staff Cyngor y Celfyddydau hefyd sy’n cael eu rhestru fel Cyn-fyfyrwyr Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol: Gwenfair Hughes am ei gwaith gwych fel rhan o'r tîm sy'n cyflwyno’r rhaglen arloesol Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau, a Judith Musker-Turner, Rheolwr Portffolio, sydd ar hyn o bryd yn arwain gwaith Cyngor y Celfyddydau ar y celfyddydau a chyfiawnder hinsawdd.
"Fodd bynnag, nid yw hyn yn rheswm i orffwys ar ein rhwyfau o bell ffordd, ac rwy'n gwybod y bydd y gydnabyddiaeth hon yn sbardun i fy ffrindiau a'm cydweithwyr, i ymrwymo hyd yn oed yn gadarnach i'r egwyddorion hollbwysig sydd wedi'u hymgorffori yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol."
DIWEDD 25 Ionawr 2023
Mae rhagor o fanylion am y 100 o Ysgogwyr Newid Cenedlaethau'r Dyfodol ar gael yma - Ysgogwyr Newid 100: Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn nodi diwedd tymor saith-mlynedd drwy gydnabod ysgogwyr newid Cymru – The Future Generations Commissioner for Wales