1. Y Briff

Fel rhan o'r rhaglen arloesol Dysgu creadigol drwy’r celfyddydau, mae'n bleser gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru gyhoeddi cyfle newydd, cyffrous i ysgolion.

Mae Cynefin: Cymru Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn tynnu ar gryfderau'r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol sydd wedi helpu ysgolion i archwilio syniadau ac ymagweddau newydd at addysgu a dysgu dros y 5 mlynedd diwethaf.

Wrth wraidd y cynllun mae cyd-adeiladu, cyd-gyflenwi, llais disgyblion a disgyblion yn gwneud penderfyniadau eu hunain. Mae'n ddull sy'n seiliedig ar ymholiadau sy'n defnyddio ymyriadau celfyddydol ac addysgeg greadigol i archwilio themâu, materion a heriau ar draws pob maes dysgu.

Ein cynnig yw sefydlu rhwydwaith o hyd at 25 o ysgolion, o bob un o bedwar rhanbarth y Consortia, a fydd yn cael eu cefnogi i ddatblygu dulliau arloesol o ddyfeisio a darparu prosiectau cydweithredol creadigol sy'n archwilio'r themâu allweddol canlynol:

  • Archwilio hanes a datblygiad Cymru fel cymdeithas amlddiwylliannol
  • Archwilio profiadau a chyfraniadau amrywiol pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, ddoe a heddiw
  • Gweithio ochr yn ochr ag Ymarferwyr Creadigol mewn amgylchedd dysgu i wella ansawdd yr addysgu a'r dysgu
  • Cefnogi ysgolion i baratoi ar gyfer Cwricwlwm Cymru 2022Bydd ein cynnig yn dod ag artistiaid ac ymarferwyr creadigol i mewn i ysgolion sydd â’r profiad byw a fydd yn sicrhau ‘cyfleoedd dysgu dilys sy’n cysylltu agweddau ar y cwricwlwm ac yn gwneud cysylltiadau â phob dydd’.

Bydd y dysgu a'r profiad a ddaw o'r rhwydwaith hwn o ysgolion yn darparu enghreifftiau o ddysgu a phrofiad a fydd yn cael eu datblygu a'u rhannu ymhellach gydag ysgolion ledled Cymru.

Rydym yn edrych i weithio gyda chwmni cynhyrchu fideo i ddal yr elfennau canlynol:

  • teithiau dysgu ysgolion dethol
  • datblygu Ymarferwyr Creadigol ac athrawon
  • cyfres o sgyrsiau rhwydweithio a gwerthuso
  • llais y disgybl

Rydym yn rhagweld gweithio ar y cyd â'r cwmni llwyddiannus i gyflawni:

  • Ffilm 15 munud sy'n cydymffurfio'n llawn â'r holl ofynion hygyrchedd
  • Crynodeb byr o'r ffilm lawn i'w defnyddio ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol

 

2. Cefndir

Cyhoeddwyd Dysgu creadigol trwy'r celfyddydau -  cynllun gweithredu ar gyfer Cymru ym mis Mawrth 2015 ac fe'i hariennir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Ym mis Chwefror 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ddwy flynedd arall o gyllid i gefnogi ysgolion wrth iddynt baratoi ar gyfer Cwricwlwm Cymru 2022.

Mae tri nod cyffredinol i'r rhaglen:

• Cynyddu a gwella profiadau a chyfleoedd celfyddydol mewn ysgolion

• Gwella cyrhaeddiad trwy greadigrwydd

• Cefnogi athrawon ac ymarferwyr celfyddydau i ddatblygu eu sgiliau

Nod y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yw hyrwyddo ffyrdd newydd o weithio mewn ysgolion, gan ddysgu trwy'r celfyddydau i ddarparu cyfleoedd i ddatblygu rhaglen ddysgu arloesol a phwrpasol wedi'i chynllunio i drawsnewid ansawdd yr addysgu a'r dysgu.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y rhaglen yma:

https://creativelearning.arts.wales/cy/clta-hafan

https://hwb.gov.wales/parthau/dysgu-creadigol/amdanom-ni/

http://2018.creativelearning.arts.wales/

 

3. Cyllideb a Chwmpasu

Rhagwelwn y bydd y prosiect hwn yn costio hyd at uchafswm o £5,000 gan gynnwys TAW i gynnwys unrhyw gostau a'r holl gostau. Rhowch ddadansoddiad cynhwysol o'r gyllideb inni, gan gynnwys unrhyw gostau teithio. Y corff comisiynu ar gyfer y darn hwn o waith yw Cyngor Celfyddydau Cymru.

Disgwylir i'r contract gychwyn ar 1 Mai 2021 a dod i ben 31 Gorffennaf 2021. Bydd yr holl brisiau yn sefydlog am y cyfnod hwnnw ac yn cynnwys TAW.

 

4. Amserlen

• Mynegiadau o ddiddordeb: 29 Mawrth 2021

• Gwobrwyo: 19 Ebrill 2021

• Cychwyn y prosiect: 1 Mai 2021

Dyddiad cau'r prosiect: 31 Gorffennaf

 

5. Cyswllt

Prif bwynt cyswllt Cyngor Celfyddydau Cymru fydd:

Daniel Trivedy

Arweinydd y Prosiect

Cyngor Celfyddydau Cymru

Bute Place

Caerdydd CF10 5AL

Daniel.trivedy@celf.cymru

 

8. Ymgeisiwch

Cyfanswm y gyllideb sydd ar gael ar gyfer y gwaith hwn yw £5,000 gan gynnwys TAW i gynnwys yr holl gostau.

I gael eich ystyried, cyflwynwch Fynegiad o Ddiddordeb fel y manylir isod gan gynnwys enghreifftiau o waith blaenorol y gellir ei gymharu â'r brîff hwn erbyn 29 Mawrth 2021.

Dylid e-bostio mynegiadau o ddiddordeb at Dysgu.creadigol@celf.cymru a gellir eu cyflwyno yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog. Dylai darpar ddarparwyr dalu'r costau canlynol yn eu cyflwyniad: yr holl gostau, adnoddau a chostau cyfieithu.

Cyflwynwch eich ymatebion i'r cwestiynau canlynol yn eich Mynegiad o Ddiddordeb:

1. Rhowch eich dealltwriaeth o ofynion y brîff a'ch barn ar yr heriau sydd i'w cyflawni.

2. Manylwch ar eich dull o ddatblygu'r brîff hwn.

3. Darparu tystiolaeth o sgiliau technegol, gwybodaeth a hanes priodol o gyflawni prosiectau tebyg.

4. Beth yw eich dealltwriaeth o ddiwygio addysg yng Nghymru a pherthnasedd ehangach y gwaith hwn?