Bydd 25 o ysgolion a 25 o unigolion creadigol proffesiynol yn dod ynghyd er mwyn cynllunio a gwireddu prosiectau creadigol a blaengar yn archwilio themâu allweddol Cynefin: Cymru Ddu, Asiaidd a lleiafrifol ethnig.

Cyflwynir cwricwlwm newydd yn ysgolion Cymru yn 2022 ac yn dilyn argymhellion y gweithgor a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn ystyried sut y mae cyfraniad cymunedau du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig trwy hanes yn cael ei ddysgu mewn ysgolion, cyhoeddwyd y bydd pob plentyn yn dysgu am hiliaeth a chyfraniadau cymunedau du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol.

Ers ei sefydlu yn 2015, mae rhaglen ‘Dysgu creadigol drwy’r celfyddydau’ Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ystyried sut i roi creadigrwydd yn ganolog o fewn y cwricwlwm newydd, ac yn ddiweddar recriwtiodd unigolion creadigol proffesiynol er mwyn iddynt weithio yn ysgolion Cymru i ystyried ffyrdd o archwilio hanes, a datblygiad Cymru fel cymdeithas aml-ddiwylliannol.

Ymhlith yr artistiaid a fu’n llwyddiannus wrth wneud cais i fod yn weithredwyr creadigol mae’r gantores broffesiynol Molara Awen a’r artist aml-ddisgyblaethol Joseph Roberts.

“Mae pobl yn y byd ac yng Nghymru yn dechrau meddwl ynghylch materion megis cydraddoldeb. Os oes gennych wallt gwahanol, croen gwahanol, gall pawb deimlo eu bod yn perthyn. Gall pawb gael llais. Mae pawb yn arbennig. Waeth pa iaith yr ydych yn ei siarad, Waeth pa liw eich croen, waeth beth yw eich crefydd. Mae “Cynefin” yn gyfle i fod yn greadigol gyda’n gilydd. Bod yn fwy caredig, i siarad gyda’n gilydd.” Molara Awen.

“Byddai’r prosiect hwn wedi bod o fudd mawr i fi pan oeddwn yn blentyn ifanc du mewn ysgol a oedd wyn ar y cyfan, felly rwy’n gobeithio dod â’r safbwynt hwnnw i’r prosiect a llais gwahanol i’r un y mae’r plant wedi arfer â’i glywed.” Joseph Roberts.

Gan siarad heddiw, dywedodd Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg:

“Rwy’n hynod falch bod Cyngor Celfyddydau Cymru wedi gweithio’n agos gyda’r gweithgor gyfraniadau cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a Cynefin yn y Cwricwlwm newydd wrth ddatblygu’r elfen newydd hon o raglen Dysgu creadigol drwy’r celfyddydau. Mae’n hynod bwysig bod y cwricwlwm newydd yn adlewyrchu gwir amrywiaeth ein poblogaeth a bod y dysgwyr yn deall sut y mae amrywiaeth wedi rhoi ffurf i Gymru.  

“Rwy’n edrych ymlaen at weld ffrwyth y gwaith hwn a sut y mae ysgolion a’r unigolion creadigol proffesiynol yn cyd-weithio er mwyn archwilio cyfraniadau unigolion a chymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig i Gymru fodern a thu hwnt.”

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

Mae Cynefin: Cymru Ddu, Asiaidd a lleiafrifol ethnig, yn manteisio ar gryfderau cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol sydd wedi cynorthwyo ysgolion i archwilio syniadau newydd  at ddysgu ac addysgu dros y chwe mlynedd ddiwethaf. Rwy’n hynod falch ein bod bellach yn medru cyfrannu yn y ffordd hon at y cwricwlwm newydd a’i bwyslais newydd ar adlewyrchu’n fwy cyflawn amrywiaeth poblogaeth Cymru ac effaith hynny ar orffennol a dyfodol Cymru. Mae’n gyffrous hefyd gweld ysgolion ac unigolion creadigol proffesiynol yn cydweithio er mwyn archwilio cyfraniadau unigolion a chymunedau yng Nghymru a thu hwnt.”

Bydd y 25 ymarferydd creadigol yn awr yn gweithio gydag ysgolion ar bartneriaethau creadigol a phrosiectau er mwyn hybu safon y dysgu a’r addysgu.

END                                               24 Mawrth 2021