Yr wythnos hon mae Cymunedoli, rhwydwaith cymunedol newydd, yn lansio'n ffurfiol mewn stondin arbennig ar faes yr Eisteddfod ym Moduan, fydd yn cynnig ysbrydoliaeth a chyngor i unrhyw Eisteddfotwr sydd awydd gweithredu’n gymunedol. I gyd-fynd gyda'r lansiad, mae mentrau Cymunedoli yn meddiannu tudalen flaen AM, yn rhannu llwyth o gynnwys digidol cyffrous dros yr wythnos!

"Cymuned o gymunedau” a “Cryfder ar y cyd” yw rhai o arwyddeiriau Cymunedoli Cyf - rhwydwaith o 26 o fentrau cymunedol a ffurfiwyd yn dilyn cyfres o sgyrsiau anffurfiol yn ystod haf 2022 gyda’r amcan i gefnogi ymdrechion ei gilydd, cryfhau’r achos dros gymunedoli ar draws Gwynedd, a chodi capasiti lleol.

Yn ôl Sel Williams, un o sylfaenwyr Cymunedoli Cyf, mae potensial y rhwydwaith yn aruthrol: 

“Be mae model Cymunedoli Cyf yn ei gynnig yw model arloesol a theg o weithredu ble mae cymunedau yn arwain ac yn rheoli’r gweithredu. Mae gwerth cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd ein gwaith yn amrhisiadwy o safbwynt cynnal cymunedau iach a chydnerth. Ein gobaith ni gyda Cymunedoli Cyf yw ein bod ni’n rhoi cynhaliaeth a chefnogaeth i’n gilydd ond ein bod ni hefyd yn ysbrydoli eraill o beth sydd yn bosib trwy weithredu lleol a thrwy gydweithio gyda’n gilydd.” 

Mae ystod y mentrau yn eang – rhai yn fentrau yn seiliedig ar le megis Yr Orsaf Penygroes, Galeri Caernarfon, Cwmni Bro Ffestiniog a Phartneriaeth Ogwen a mentrau eraill yn gweithio o fewn sectorau penodol megis y sector gofal a lles, lletygarwch, cludiant, ynni, tafarndai cymunedol a mwy. Yn ystod yr wythnos, bydd pob diwrnod yn cynnig thema gwahanol ar weithredu cymunedol gyda chyflwyniadau, sesiynau panel a gweithdai amrywiol - mae'r amserlen i'w weld isod.

Mae cynnwys digidol newydd i hyrwyddo gwaith aelodau Cymunedoli Cyf yn dilyn y themau dyddiol yn cael ei rannu ar y dudalen flaen AM. Mae AM hefyd yn arddangos ffilm arbennig yn cynnwys sgyrsiau gyda rhai o sefydlwyr mentrau Cymunedoli. Ewch i fwynhau'r cwbl ar dudalen flaen AM ac ar sianel newydd Cymunedoli nawr!