Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi creu rhaglen gerddorol amrywiol ac arddangosfa gelf wych. Yn ymddangos ym mhrif raglen yr ŵyl fydd:

  • Only Boys Aloud
  • NoGood Boyo
  • Cerys Hafana, y delynores
  • Alffa, y ddeuawd roc Gymraeg

Perfformiant hefyd ym Mhafiliwn y Brythoniaid (‘le Pavillon Brythonique’) ac yno hefyd fydd:

  • VRï, y triawd gwerin
  • Gwilym Bowen Rhys
  • Lily Beau
  • Avanc, Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru

Yn y rhaglen hefyd bydd 3 enghraifft o gydweithio yn y prosiect, Kan An Tann. Bydd 3 cherddor o Gymru:

  • Gwilym Bowen Rhys
  • Cerys Hafana
  • Shamoniks (Sam Humphreys)

yn perfformio gyda 3 cherddor o Lydaw:

  • Léa
  • Nolween Korbell
  • Krismenn

Yn arddangosfa Celf Geltaidd Ewropeaidd, bydd Daniel Trivedy yn arddangos  Blancedi Argyfwng Cymru a enillodd Fedal Aur yr Eisteddfod yn 2019.

Meddai Antwn Owen-Hicks, Arweinydd a Rheolwr Dirprwyaeth Cymru: "Unwaith eto y cyflwynwn arlwy gref o artistiaid sy'n adlewyrchu hyder a datblygiad ein cerddoriaeth a'n diwylliant. Canolbwyntiwn ar bobl ifanc a chydweithio gyda'n cefndryd yn Llydaw. Bydd y cydweithio’n parhau yng Nghysylltiadau Celtaidd yn Glaschu/Glasgow yn Ionawr 2023, pan gynigiwn ar y cyd gerddoriaeth o’n dwy wlad."

Nododd UNESCO y flwyddyn 2022 yn ddechrau Degawd Rhyngwladol yr Ieithoedd Brodorol. Cefnoga’r Cyngor y Llywodraeth i godi proffil y Gymraeg ac ieithoedd brodorol eraill y byd i’w hamddiffyn a’u dathlu. Bydd ein harlwy yn An Oriant yn cynnwys artistiaid Cymraeg a Llydaweg eu hiaith a fydd yn perfformio mewn gwahanol ddulliau i ddangos bwrlwm y sin gerddorol gynhenid. Ein cefndryd Cernyweg fydd hefyd yn perfformio ym Mhafiliwn y Brythoniaid. Caiff ymwelwyr felly wrando ar berfformiadau cerddorol o fore gwyn tan nos gan ddysgu am Gymru, ein diwylliant a’r cyfleoedd i ymweld â ni.

Trac, yr asiantaeth cerddoriaeth werin, sy’n rhedeg prosiectau Avanc a Kan An Tann yn yr ŵyl.

Cwmni cynhyrchu o Gaerdydd, Orchard, fydd yn rheoli rhaglen Cymru yn An Oriant. Bydd hefyd yn cynhyrchu rhaglen awr o hyd am yr ŵyl i S4C.

 

Nodiadau i’r golygydd

Cynrychiolir Cymru yn An Oriant gan:

Alffa

Avanc

Cerys Hafana

Gwilym Bowen Rhys

Lily Beau
NoGood Boyo

Only Boys Aloud

Shamoniks
VRï

Avanc a Kan An Tann

Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru yw Avanc sy’n fenter Trac, yr asiantaeth i ddatblygu cerddoriaeth werin. 12 cerddor traddodiadol ifanc sy’n chwarae yno.

Prosiect Trac arall yw Kan An Tann gyda chefnogaeth Tafwyl a Chyngor Prydeinig Cymru.

www.trac.cymru

 

Am ragor o wybodaeth: Tim Powell o Orchard ar 07939 571553