Mae Cymrodoriaeth Greadigol Ysgol Cymru-Prydain yn Rhufain yn gyfle gwerthfawr i artist ar bwynt arwyddocaol yn eu gyrfa (fel arfer ar ddechrau i ganol eu gyrfa), sy’n byw yng Nghymru, i ymgymryd â phreswyliad tri mis yn Rhufain. Dylai ymgeiswyr fod yn unigolion creadigol eithriadol, uchelgeisiol a llawn dychymyg sy’n creu eu gwaith mewn stiwdio, sy’n gweithio ar draws unrhyw gyfrwng, gan gynnwys y maes digidol a ffilm, perfformio a holl arferion y celfyddydau cain.

Mae'r Gymrodoriaeth yn cynnig:

  • cyflog o £1,500 y mis
  • grant teithio o £500
  • bwyd a llety mewn stiwdio breswyl bwrpasol
  • cefnogaeth staff llawn, gan gynnwys cymorth gyda mynediad i safleoedd, casgliadau ac adnoddau yn Rhufain a’r Eidal gan ein Swyddog Cefnogi Ymchwil, a chefnogaeth gydag ymweliadau stiwdio, ymweliadau safle, arddangosfeydd a rhwydweithio gan Guradur ein Rhaglen Celfyddydau Cain
  • Gwersi Eidaleg wythnosol ar y safle
  • Mynediad 24/7 i Lyfrgell BSR
  • cyfleoedd i gymryd rhan mewn stiwdios agored ac i gydweithio ag artistiaid a grwpiau lleol

Rhaid i ymgeiswyr fod yn:

  • yn preswylio ac yn gweithio yng Nghymru.
  • ar bwynt arwyddocaol yn eu gyrfaoedd (fel arfer o ddechrau i ganol gyrfa).
  • artistiaid stiwdio sy'n gweithio ar draws unrhyw gyfrwng
  • yn barod i ddod â’u profiad BSR yn ôl i gyfoethogi’r celfyddydau gweledol yng Nghymru.

Rhaid cyflwyno ceisiadau ar  https://bsrome.slideroom.com erbyn 31 Rhagfyr 2024.
 

Dyddiad cau: 31/12/2024