Mae FOCUS Wales yn llwyfannu deialog ddiwylliannol rhwng Cymru ac Aotearoa (Seland Newydd) yr wythnos hon, wrth i dri artist recordio Māori enwog gamu ar y llwyfan mewn lleoliadau ledled Wrecsam rhwng 8 a 10 Mai. Mae'r ŵyl - a ddenodd dros 20,000 o bobl yn 2024 (y nifer mwyaf erioed) yn creu pont gerddorol unigryw rhwng dwy wlad sydd ar siwrneiau o adfywio ieithyddol, gan adeiladu dealltwriaeth, parch ac undod o amgylch iaith.

Mae'r cyfnewid diwylliannol hwn yn digwydd yn sgil cydweithio rhwng y British Council yn Seland Newydd ac yng Nghymru, APRA AMCOS, Creative New Zealand, Comisiwn Cerddoriaeth Seland Newydd | Te Reo Reka o Aotearoa, Prosiect Pūtahitanga (Prosiect Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd), Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a'r Uwch Gomisiwn Prydeinig yn Wellington.

Bydd yn gyfle i'r cerddorion o Aotearoa (Seland Newydd) feithrin cysylltiadau a chwrdd â chyfoedion creadigol o Gymru yn ogystal ag artistiaid o wledydd eraill lle mae ieithoedd treftadaeth yn cael eu dathlu drwy gerddoriaeth. Yr artistiaid o Aotearoa fydd yn perfformio yn FOCUS Wales yw: MOHI, sy'n cyfuno arddull Te Reo Māori o adrodd straeon gydag elfennau o gerddoriaeth ddinesig gyfoes; Jordyn With A Why, sydd wedi ennill bri am ganeuon dwyieithog sy'n pontio cerddoriaeth draddodiadol a modern; a MĀ, sy'n perfformio cyfuniad brodorol unigryw o rap abstract tempo-isel, neo-soul DIY a cherddoriaeth amgylchol hudolus. Byddant yn perfformio dwy set yr un gyda'u bandiau ar wahanol lwyfannau yn ystod yr ŵyl. Byddant hefyd yn cynrychioli Aotearoa mewn trafodaeth banel a fydd yn ystyried sut mae cerddoriaeth yn gyfrwng i fynegi iaith a diwylliant.

Dechreuodd y cydweithio fel rhan o brosiect ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd -  Prosiect Pūtahitanga - a oedd yn edrych ar bwyntiau cyswllt rhwng artistiaid cerddoriaeth boblogaidd sy'n defnyddio ieithoedd lleiafrifol neu ieithoedd brodorol yng Nghymru ac Aotearoa, a cefnogodd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru y band Cymreig CHROMA i deithio i Aotearoa gyda'r prosiect ymchwil. Gyda chefnogaeth y British Council, cafodd cerddorion o Gymru fel Georgia Ruth, Cat Southall a Carwyn Ellis gyfle i deithio i Seland Newydd i gydweithio ag artistiaid Māori fel rhan o brosiect SongHubs. Nod y prosiect, a gynhaliwyd gan APRA AMCOS NZ, oedd creu cysylltiadau rhwng artistiaid o'r ddwy wlad a hybu dealltwriaeth o'r defnydd a wneir o'r ddwy iaith.

Bydd FOCUS Cymru'n rhoi llwyfan i dros 250 o artistiaid mewn 20 o ganolfanau a lleoliadau ar draws dinas Wrecsam. Yn ogystal â'r wledd gerddorol cynhelir paneli rhyngweithiol i weithwyr yn y diwydiant cerddoriaeth, digwyddiadau rhyngweithio a sgriniadau ffilm. Bydd yr artistiaid o Aotearoa, Jordyn With A Why, MOHI a MĀ, yn perfformio yn GlyndwrTV ddydd Iau, 8 Mai - gan gyflwyno set yr un o 20 munud. Ddydd Sadwrn, 10 Mai bydd y tri artist yn perfformio setiau hirach (30 munud) yn Eglwys Hope Street.

Un o uchafbwyntiau'r fenter gydweithio hon fydd y drafodaeth banel a gynhelir ddydd Sadwrn sef, Prosiect Pūtahitanga, Prifysgol Caerdydd yn Cyflwyno: Myfyrio ar Gerddoriaeth ac Iaith yng Nghymru ac Aotearoa. Ymysg y pynciau trafod bydd tueddiadau cerddorol mewn cerddoriaeth lle defnyddir ieithoedd heblaw Saesneg, cwestiynnau am ddilysrwydd diwylliannol, tensiynau o gwmpas genre ac iaith a sut y gall iaith godi uwchlaw rhwystrau genre.

Bydd digwyddiad arbennig, Yr Aotearoa: Derbyniad Rhwydweithio Seland Newyddyn cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd ar nos Sadwrn yr ŵyl yn Eglwys Hope Street. Bydd yn cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer cyfnewid diwylliannol a chreu cysylltiadau proffesiynol.

Dywedodd Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru: "Mae’ bleser parhau â'n cefnogaeth i gyfnewid diwylliannol rhwng artistiaid Māori ac artistiad o Gymru.  Gydag un iaith yn diflannu bob pythefnos yn fyd-eang, a'r Gymraeg ei hun ar bwynt critigol, yn disgyn o dan 20% o siaradwyr, mae ein  rhaglen Gwrando/Gwrando fel rhan o Ddegawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig, wedi cefnogi artistiaid o Gymru i gysylltu ag ieithoedd a diwylliannau brodorol o bob cwr o'r byd, gyda'r nod o adeiladu pontydd dealltwriaeth, parch, ac undod yn cyd-fynd â Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Mae'n wych cefnogi hyn drwy gerddoriaeth yn Focus Wales."

Dywedodd Andy Jones, cyd-sefydlwr a rhaglenwr cerddoriaeth Gŵyl FOCUS Wales: "Mae croesawu'r artistiaid Māori talentog yma i'n gŵyl yn greiddiol i'r hyn y mae FOCUS Wales yn ei gynrychioli - creu cysylltiadau ystyrlon ar draws ffiniau drwy gerddoriaeth. Mae'r iaith Gymraeg a'r iaith Māori wedi bod ar siwrneiau tebyg, a bydd yn wych i weld dathlu'r dreftadaeth a'r cysylltiad yma. Rydyn ni wrth ein bodd i gynnig llwyfan yn FOCUS Wales lle gall y sgyrsiau diwylliannol hyn ddigwydd."

Dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru:  

"Mae'r siwrne gyffredin i adfywio'r Gymraeg a Te Reo Māori drwy gerddoriaeth yn ffordd rymus o'n hatgoffa sut y gall iaith a diwylliant ffynnu drwy greadigrwydd. Mae digwyddiadau fel FOCUS Wales yn chwalu ffiniau - daearyddol a diwylliannol - gan alluogi artistiaid i gysylltu, cydweithio ac ysbrydoli ei gilydd. Mae'n fraint i groesawu'r cerddorion hynod yma i Wrecsam, ac rydym yn falch iawn i gefnogi'r cysylltiadau y byddant yn eu creu, nid yn unig rhwng Cymru ac Aotearoa (Seland Newydd), ond ar draws y gymuned greadigol fyd-eang."

Bydd FOCUS Cymru'n rhoi llwyfan i dros 250 o artistiaid mewn 20 o ganolfanau a lleoliadau ar draws dinas Wrecsam. Yn ogystal â'r wledd gerddorol cynhelir paneli rhyngweithiol i weithwyr yn y diwydiant cerddoriaeth, digwyddiadau rhyngweithio a sgriniadau ffilm. Bydd yr artistiaid o Aotearoa, Jordyn With A Why, MOHI a MĀ, yn perfformio yn GlyndwrTV ddydd Iau, 8 Mai - gan gyflwyno set yr un o 20 munud. Ddydd Sadwrn, 10 Mai bydd y tri artist yn perfformio setiau hirach (30 munud) yn Eglwys Hope Street.

Un o uchafbwyntiau'r fenter gydweithio hon fydd y drafodaeth banel a gynhelir ddydd Sadwrn sef, Prosiect Pūtahitanga, Prifysgol Caerdydd yn Cyflwyno: Myfyrio ar Gerddoriaeth ac Iaith yng Nghymru ac Aotearoa. Ymysg y pynciau trafod bydd tueddiadau cerddorol mewn cerddoriaeth lle defnyddir ieithoedd heblaw Saesneg, cwestiynnau am ddilysrwydd diwylliannol, tensiynau o gwmpas genre ac iaith a sut y gall iaith godi uwchlaw rhwystrau genre.

Bydd digwyddiad arbennig, Yr Aotearoa: Derbyniad Rhwydweithio Seland Newyddyn cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd ar nos Sadwrn yr ŵyl yn Eglwys Hope Street. Bydd yn cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer cyfnewid diwylliannol a chreu cysylltiadau proffesiynol.

Dywedodd Dr Elen Ifan, Darlithydd yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae'r cyfnewid diwylliannol yma'n cynrychioli cyfle unigryw i archwilio'r pwyntiau cyswllt rhwng cymunedau cerddorol sy'n defnyddio ieithoedd lleiafrifol a brodorol yng Nghymru ac Aotearoa (Seland Newydd). Gall cerddoriaeth fod yn gyfrwng grymus ar gyfer mynegiant diwylliannol, a thrwy fentrau fel hyn gallwn gael gwell dealltwriaeth o sut mae defnydd o iaith mewn cerddoriaeth boblogaidd yn croestorri ag ymdeimlad o gymuned a pherchnogaeth o iaith ar draws gwahanol gyd-destunnau diwylliannol. Mae Prosiect Pūtahitanga yn falch iawn i fod yn rhan o'r cydweithio yma ac i gynnal trafodaeth a fydd yn dyfnhau ein dealltwriaeth o ddefnydd iaith yn y cyd-destunau cyfoes hyn."

 

Os hoffech glywed mwy am y cysylltiadau rhwng Cymru ac Aotearoa (Seland Newydd) a'r prosiect SongHubsMāori/Cymraeg, gallwch wrando ar gyfres newydd o bodlediadau gan y Cyngor Prydeinig, Breaking Boundaries. Cyflwynir y bennod gyntaf gan y cerddor nodedig o Gymru Georgia Ruth sy'n cnoi cil ar ei phrofiad o deithio i Aotearoa (Seland Newydd) gyda phrosiect SongHubs i weithio gydag artistiaid Māori blaenllaw a'r cynhyrchydd nodedig Greg Haver.

Breaking Boundaries, Yr Ail Gyfres, Pennod Un | Cerddoriaeth ar draws cefnforoedd

Yr Artistiaid

Musicians from Aotearoa New Zealand who are performing at FOCUS Wales

Lluniau: Cerddorion o Aotearoa (Seland Newydd) sy'n perfformio yn FOCUS Wales.O'r Chwith i'r Dde: MĀ | Jordyn with a Why | Mohi |  © Brandon Te Moananui |  Luke Penney 

MOHI [Ngāti Kahungunu ki Te Wairoa Ngāpuhi | Te Rarawa | Ngāi Te Rangi]: Artist gwobrwyedig o Henderson, Gorllewin Auckland. Mae MOHI yn cyfuno elfennau o draddodiad adrodd straeon Māori, geiriau Saesneg a dylanwadau cerddoriaeth ddinesig i greu sŵn unigryw. Mae ei whakapapa yn ei gysylltu â Te Tai Tokerau, Tauranga Moana a Ngāti Kahungunu ki Te Wairoa, ac mae gwreiddiau ei greadigrwydd a'i waith yn ddwfn yn ei dreftadaeth Māori. Ers lansio'i yrfa unigol yn 2020, mae MOHI wedi dod yn enw adnabyddus ac wedi cael llwyddiant mawr yn y siartiau. Mae ei brosiect diweddaraf 'The Flowers That Grow From Concrete Pavements' yn cynnwys dwy sengl a aeth i frig siart senglau Seland Newydd yn 2024. Enillodd MOHI wobr yr Albwm Māori Te Reo Gorau a Gwobr yr Artist Gwrywaidd Gorau yng Ngwobrau Cerddoriaeth Māori 2024. Cafodd ei enwebu ar gyfer nifer o wobrau yng Ngwobrau Cerddoriaeth Aotearoa 2024, ac mae wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr Te Māngai Pāho Te Manu Taki Māori o te Tau | Artist Māori Gorau 2025 yng Ngwobrau Cerddoriaeth Aotearoa yn ogystal ag ennill Gwobr APRA Maioha am 'Me Pēhea Rā'. Bydd MOHI yn dod â'i berfformiad byw cyfareddol i ŵyl FOCUS Wales yn Wrecsam eleni,    

Jordyn With A Why: [Tainui Āwhiro | Vaimoso, Samoa Mulifanua Lalovi FalelataiI]: Mae gwreiddiau Jordyn Fuala’au Awatea Rapana yn Tainui Āwhiro in Whāingaroa ar ochr ei thad, a Mulifanua Lalovi, Falelatai a Vaimoso yn Samoa ar ochr ei mam. Cafodd ei magu'n bennaf yn Ne Auckland, ac mae ganddi gysylltiadau agos â chartref ei theulu yn Ōtara. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod ar siwrne i adfer ei reo Māori - siwrne sydd hefyd wedi tanio ei gyrfa gerddorol ac ysbrydoli ei chaneuon. Yn 2024 enillodd Wobr Maioha 2024 yng Ngwobrau'r Silver Scrolls am 'He Rei Niho', ac mae wedi cael ei henwebu ar gyfer gwobr Te Māngai Pāho Mana Reo / Y Gân Māori Orau a gwobr Te Māngai Pāho Te Manu Taki Māori o te Tau | Yr Artist Māori Gorau yng Ngwobrau Cerddoriaeth Aotearoa 2025. Erbyn hyn, mae Jordyn yn rhannu ei hamser rhwng ei mahi fel athrawes reo Māori a'i gyrfa brysur fel cerddor, sy'n ei galluogi i rannu ei cherddoriaeth ddwyieithog â chynulleidfa sy'n tyfu'n gyson.

: [Ngāi Tūhoe, Ngāti Raukawa, Ngāti Porou] Mae MĀ yn gerddor ac artist Maori hunanddysgedig o Te Whanganui-a-Tara, Aotearoa. Mae hi'n ganwr, rapiwr, bardd gair llafar, crëwr curiadau, cynhyrchydd ac arweinydd band. Ers rhyddhau ei halbwm gyntaf 'Breakfast With Hades' (a gynhyrchwyd ganddi hefyd) mae wedi cael sylw gan Radio New Zealand, Rolling Stone a Vice. Mae wedi teithio gyda Avantdale Bowling Club a chefnogi Ice Cube, Souls of Mischief, Clear Path Ensemble a Homebrew. Dros y tair blynedd diwethaf mae MĀ wedi ennill bri gyda chynulleidfaoedd yn Seland Newydd am ei chyfuniad diamheuol o frodorol o rap abstract tempo araf, neo-soul DIY a cherddoriaeth amgylchol hudolus. Galar, hunan-gariad ac ymwybyddiaeth fyw o fyd natur sy'n ysbrydoli ei chaneuon. Maent yn pwysleisio gwerth a phwysigrwydd te taiao / byd natur, whakapapa / achau, manaakitanga / parch a charedigrwydd, hiwmor a gonestrwydd emosiynol.