Dydd Iau, 24 Gorffennaf 24 · 6–7pm
Eisiau dysgu mwy am gynhyrchu? Cwestiynau am godi arian? Ddim yn siŵr sut i gysylltu â lleoliad? Ymunwch â’r Gymhorthfa i Gynhyrchwyr gan TBC!
Mae'r cynhyrchydd theatr llawrydd, Tom Bevan, yn cynnig Cymhorthfa i Gynhyrchwyr, sy’n agored i bawb ac ar-lein. Bydd y Gymhorthfa yn lle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am gynhyrchu, neu i gael rhywfaint o gymorth gydag unrhyw brosiectau sydd gennych ar y gweill.
Mae Tom Bevan Creative yn gwmni cynhyrchu o Gaerdydd sy'n gwneud sioeau newydd ac yn cynnal digwyddiadau diwylliannol, gan roi llwyfan i bobl, llefydd a safbwyntiau nad ydyn ni’n clywed digon ganddyn nhw. Mae gwaith Tom yn cwmpasu gwahanol leoliadau daearyddol, ar ôl cynhyrchu sioeau yng Nghaerdydd, Bryste, Caerloyw a Llundain. Mae hefyd wedi gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid (Theatr Clwyd, Cwmni Viv Gordon, Bristol Old Vic). Yn ddiweddar, cynhyrchodd Tom y cynyrchiadau Port Talbot Gotta Banksy (Sherman Theatre/Theatr3) a Mumfighter (Grand Ambition), ac mae ar hyn o bryd yn Uwch Gynhyrchydd Dros Dro gyda Strike A Light. Mae Tom hefyd yn Hyfforddwr hyfforddedig ac yn cynnig gwasanaethau i gleientiaid gan eu hannog i nodi eu huchelgeisiau a chyflawni eu nodau.
Pam rydych chi'n codi tâl am y sesiwn?
Gall pobl fanteisio ar y cymorthfeydd drwy dalu faint a fynnan nhw, gydag awgrym o £5 fel rhodd. Fel cwmni bach, na chaiff ei ariannu i gyflwyno'r sesiynau hyn, bwriedir i hyn dalu am ran o fy amser i gyflwyno'r sesiwn, yn ogystal â thalu rhywfaint o’r gost am gyfrif ‘Pro’ Zoom. Os yw arian yn rhwystr, cofiwch fwcio ymlaen llaw a dewis '£0'
Ar ba fformat y caiff y sesiwn ei gyflwyno?
Bydd y sesiwn yn gyfle i chi ymuno a holi unrhyw gwestiynau sydd gennych am gynhyrchu eich sioe eich hun! Bydd yn dechrau gyda chyflwyniad byr, ac yna cyfle i drafod beth allai pob cyfranogwr fod eisiau ei gael allan o'r sesiwn. Gallwch gyflwyno rhai cwestiynau ymlaen llaw wrth fwcio hefyd.