Rydym yn falch i gyhoeddi fod y Cynllun Grant Diwylliant ar gyfer Sefydliadau Llawr Gwlad ar agor tan 5.00yh Dydd Llun, 15fed Medi 2025.
Bydd y rownd newydd yma o grantiau gwerth £174,000 o gyllid refeniw a £60,000 o gyllid cyfalaf yn galluogi Grwpiau Llawr Gwlad neu Grwpiau sy’n cael eu rhedeg gan neu ar gyfer:
Pobl o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys pobl o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Pobl o’r gymuned LHDTC+ yng Nghymru.
Pobl gydag anabledd yng Nghymru.
I ddarparu prosiectau 6 mis rhwng Hydref 2025 – Mawrth 2026 sy’n adlewyrchu amrywiaeth cymunedau Cymru drwy weithgareddau celf a diwylliant.
Mae yna fwy o wybodaeth arlein: Cynllun Grantiau Diwylliant Llywodraeth Cymru ar gyfer Sefydliadau Llawr Gwlad - Adferiad
Mae’r Cynllun Grant hwn yn rhan o waith Llywodraeth Cymru ar gynllunio a strategaeth cydraddoldeb, yn benodol y:
Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
Cynllun Gweithredu LHDTC+ i Gymru
Cysylltwch a ni trwy'r ebost culturegrants@adferiad.org