Ar ddydd Sul 11 Mai, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2025 ar sianeli radio cenedlaethol Cymru. 

Datgelwyd y Rhestr Gymraeg gan y beirniaid Menna Elfyn, Gwenllian Ellis, Dr Miriam Elin Jones, a Hammad Rind ar raglen Ffion Dafis, BBC Radio Cymru. Cyhoeddwyd y Rhestr Saesneg gan y beirniad Carole Burns ar raglen Lynn Bowles ar BBC Radio Wales. Yn gwmni i’r beirniaid a’r cyflwynwyr ar y darllediadau, roedd Leusa Llewelyn a Claire Furlong, Cyfarwyddwr Artistig a Chyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru, yr elusen sy’n rhedeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn.

Bob blwyddyn, mae Llyfr y Flwyddyn yn dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, gydag un o’r enillwyr categori yn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr a hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn. Mae’r Rhestr Fer yn cynnwys cyfanswm o 24 llyfr – deuddeg ym mhob iaith, tri ym mhob categori.

Noddir y Brif Wobr Gymraeg eleni gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, a’r Brif Wobr Saesneg gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd.

Y Rhestr Fer

O’r 26 awdur ar y Rhestr Fer, mae 21 ohonynt yn fenywod. Mae yma gyn-enillwyr Llyfr y Flwyddyn, ac awduron sy’n cyhoeddi gwaith am y tro cyntaf. Mae’r cyfrolau’n mynd â darllenwyr ar deithiau drwy’r llon a’r lleddf, realiti a ffantasi. Ceir yma archwiliadau dwys o brofiadau bywyd – trechu rhwystrau, dygymod â’r gorffennol, ac edrych ymlaen i’r dyfodol. 

Gwobr Ffuglen – Noddir gan HSJ Accountants    
Nelan a Bo, Angharad Price (Y Lolfa)
Madws, Sioned Wyn Roberts (Gwasg y Bwthyn)
V + Fo, Gwenno Gwilym (Gwasg y Bwthyn)

Gwobr Farddoniaeth             
Rhuo ei distawrwydd hi, Meleri Davies (Cyhoeddiadau’r Stamp)
Pethau sy’n Digwydd , Siôn Tomos Owen (Cyhoeddiadau Barddas)
O’r Rhuddin, Sioned Erin Hughes (Y Lolfa)

Gwobr Ffeithiol Greadigol
Oedolyn (ish!), Melanie Owen (Y Lolfa)
Camu, Iola Ynyr (Y Lolfa)
Casglu Llwch, Georgia Ruth (Y Lolfa)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc – Cefnogir gan Gronfa Elw Park-Jones
Cymry. Balch. Ifanc., Golygwyd gan Llŷr Titus a Megan Angharad Hunter (Rily Publications LTD)
Arwana Swtan a’r Sgodyn Od, Angie Roberts a Dyfan Roberts (Gwasg y Bwthyn)
Rhedyn, Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)

Bob blwyddyn, mae Llenyddiaeth Cymru yn penodi panel o feirniaid talentog a phrofiadol i ddarllen, dewis a dethol y Rhestrau Byrion ac yna dewis eu henillwyr categori. Ar y panel Cymraeg eleni mae: y bardd a’r dramodydd arobryn Menna Elfyn; yr awdur ac enillydd gwobr Barn y Bobl 2023 Gwenllian Ellis; y llenor a’r dramodydd Dr Miriam Elin Jones, sy’n ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe; a’r awdur a’r cyfieithydd Hammad Rind.

Ar ran y panel Cymraeg, dywedodd Miriam Elin Jones: “Mae hi’n deimlad arbennig gallu dod ynghyd gyda’m cyd-feirniaid i ddathlu’r goreuon o blith cyhoeddiadau 2024 ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at weld darllenwyr ledled Cymru’n darllen y testunau rydym ninnau wedi’u mwynhau.”

Y Rhestr Fer Saesneg

Gwobr Farddoniaeth
Girls etc, Rhian Elizabeth (Broken Sleep Books)
Little Universe, Natalie Ann Holborow (Parthian Books)
Portrait of a Young Girl Falling, Katrina Moinet (Hedgehog Poetry Press)

Gwobr Ffeithiol Greadigol – Noddir gan Hadio
Tir: The Story of the Welsh Landscape, Carwyn Graves (Calon Books)
Nightshade Mother: A Disentangling, Gwyneth Lewis (Calon Books)
Nature’s Ghosts: The world we lost and how to bring it back, Sophie Yeo (HarperNorth)

Gwobr Ffuglen  - Cefnogir gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies
Earthly Creatures, Stevie Davies (Honno)
Clear, Carys Davies (Granta) 
Glass Houses , Francesca Reece (Headline Publishing Group, Tinder Press)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc
A History of My Weird, Chloe Heuch (Firefly Press)
Fallout, Lesley Parr (Bloomsbury)
Why Did My Brain Make Me Say It?, Sarah Ziman (Troika)

Ar y panel beirniadu Saesneg eleni mae: yr awdur Eloise Williams, y mae ei llyfrau i bobl ifanc wedi ennill sawl gwobr; yr awdur, newyddiadurwr a chyn-ddarlithydd llenyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth Ned Thomas; yr awdur a’r newyddiadurwr arobryn Carole Burns; a’r perfformiwr, hwylusydd ac Uwch Reolwr Platfform yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Jason Camilleri.

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi ei chynnal gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, a dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, mae rhai o awduron mwyaf toreithiog Cymru wedi eu gwobrwyo ochr yn ochr â rhai sy’n cyhoeddi am y tro cyntaf. 

Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru: “Dyma un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i mi – derbyn rhestrau darllen o’r llyfrau gorau un sydd wedi eu cyhoeddi yn y flwyddyn flaenorol gan banel arbenigol. Diolch o galon i’r beirniaid am eu gwaith darllen diwyd. Llongyfarchiadau mawr i awduron y rhestrau byrion – gobeithio y bydd y cyhoeddiad hwn yn ysgogiad pellach i ddarllenwyr heidio i’w siop lyfrau neu eu llyfrgell leol. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i weld pwy fydd yn fuddugol yn ein Seremoni fawreddog yng Nghaerdydd fis Gorffennaf.”

Caiff enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yn Theatr Sherman, Caerdydd ar nos Iau, 17 Gorffennaf. Bydd 12 gwobr a chyfanswm o £14,000 yn cael eu rhannu ymysg yr awduron, £1,000 yr un i’r enillwyr categori a £3,000 yn ychwanegol i enillwyr y brif wobr yn y ddwy iaith. Yn ogystal, bydd yr awduron llwyddiannus yn derbyn tlysau eiconig Llyfr y Flwyddyn wedi eu dylunio yn arbennig gan yr artist, Angharad Pearce Jones.

Mae cyfle i ddarllenwyr ddweud eu dweud unwaith eto eleni wrth i Golwg360Nation Cymru gynnal pleidleisiau Barn y Bobl a People’s Choice ar eu gwefannau. Caiff enillwyr y gwobrau hyn eu henwi yn y seremoni wobrwyo yn ogystal. 

I ddarganfod rhagor am y cyfrolau ar y Rhestr Fer a’r awduron a’u ysgrifennodd, ewch i www.llenyddiaethcymru.org/llyfr-y-flwyddyn