Trwy roi'r celfyddydau a chreadigrwydd wrth galon addysg, mae'r rhaglen arloesol hon wedi cefnogi ysgolion i ddatblygu dulliau newydd o ddylunio'r cwricwlwm, wedi cefnogi athrawon i archwilio dulliau arloesol ac wedi cefnogi dysgwyr i wireddu eu potensial llawn.
Ers ei lansio yn 2015, mae 1,238 o ysgolion yng Nghymru (84%) wedi ymgysylltu â'r rhaglen, gan greu 238,000 o gyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu creadigol, yn amrywio o ymweliadau â lleoliadau celfyddydau a diwylliannol, i gydweithio ag ymarferwyr creadigol ar brosiectau wedi eu teilwra yn y dosbarth.
Bydd y cam newydd hwn yn parhau i adeiladu ar lwyddiannau'r rhaglen a bydd yn cynnwys gweithio gydag ysgolion newydd, yn ogystal â chefnogi ysgolion sydd eisoes wedi archwilio dulliau dysgu creadigol ar eu taith tuag at weithredu’r Cwricwlwm i Gymru.
Dywedodd Diane Hebb, Cyfarwyddwr (Ymgysylltu â'r Celfyddydau) Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Rydyn ni wrth ein boddau o glywed y newyddion am yr estyniad hwn, yn cryfhau'r bartneriaeth lwyddiannus sydd eisoes wedi'i hen sefydlu rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.”
“Mae cyflawniadau’r rhaglen hyd yma wedi bod yn rhyfeddol ac mae tystiolaeth yn parhau i ddangos bod yr effaith wedi bod yn drawsnewidiol i ddysgwyr, athrawon ac ysgolion, ac wrth gwrs i'r artistiaid yn ogystal. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i ymateb i anghenion ysgolion gan sicrhau bod creadigrwydd a phrofiadau cyfoethog yn y celfyddydau yn cael eu hymgorffori o fewn cyfleoedd dysgu yng Nghymru.”
Dywedodd Phil George, Cadeirydd, Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Mae ymestyn y rhaglen Dysgu Creadigol drwy’r celfyddydau yn dyst i’w lwyddiant er 2015. Mae partneru athrawon ag ymarferwyr creadigol proffesiynol wedi caniatáu i ddysgwyr brofi math newydd o amgylchedd ystafell ddosbarth, un sy’n defnyddio creadigrwydd i agor llwybrau ym mhob maes addysgol, a un sy'n manteisio ar chwilfrydedd a dychymyg naturiol dysgwr ifanc i ddatrys problemau a rhyddhau eu potensial."‘’Bydd y trydydd cam hwn yn y rhaglen yn ymgorffori dulliau creadigol ymhellach o fewn mwy a mwy o ysgolion wrth iddynt ymateb i’r cyfleoedd cyffrous y cwricwlwm newydd. Mae’r bartneriaeth hon gyda Llywodraeth Cymru yn rhoi’r celfyddydau wrth galon cymdeithas ac er budd pawb’’.
FFEITHIAU ALLWEDDOL A FFIGURAU
- Mae 1,238 o ysgolion wedi ymgysylltu â'r rhaglen ers ei lansio yn 2015. Dyma 84% o ysgolion yng Nghymru.
- Mae 678 o ysgolion wedi ymgysylltu â'r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol
- Dros 238,000 o ddysgwyr wedi ymgysylltu â'r rhaglen
- Dros 7,000 o ymrwymiadau dysgu proffesiynol i athrawon.