Mae ceisiadau ar gyfer Cyfoedion Peak 2024 ar agor ac rydyn ni eisiau clywed ganddoch chi!
- Hoffech chi archwilio’r Mynyddoedd Duon, datblygu sgiliau newydd a bod yn rhan o grŵp o gyfoedion cefnogol?
- Oes gennych chi ddiddordeb mewn archwilio cwestiynau am dir, perthyn, ymgyrchu a chreadigrwydd mewn cyd-destun gwledig?
- Hoffech chi gwrdd ag artistiaid a phobl o ddisgyblaethau eraill sy’n archwilio’r themâu yma?
Rhaglen wyth diwrnod yw Cyfoedion Peak 2024, sy’n gwahodd pobl ifanc i archwilio themâu tir, perthyn, ymgyrchu, a chreadigrwydd, ac sydd wedi’i gwreiddio yn y Mynyddoedd Duon a’r Gororau. Mae’r rhaglen yn cael ei chynnal yn ystod mis Medi, mis Hydref a mis Tachwedd 2024, ac mae’n cynnwys gweithdai creadigol, sgyrsiau a mynd am dro gydag artistiaid ac ymgyrchwyr. Cynhelir Cyfoedion Peak gan Peak Cymru ac mae wedi’i lleoli ar ein dau safle, Platfform 2 yng Ngorsaf Drenau’r Fenni a’r Hen Ysgol yng Nghrughywel, gydag ymweliadau â’r Mynyddoedd Duon, Dyffryn Wysg a’r ardaloedd cyfagos.
Mae Cyfoedion Peak 2024 yn cael ei chynnal ar y cyd ag artistiaid ac ymgyrchwyr: Jannat Ahmed, Manon Awst, Nadia Shaikh a Jon Moses (Right to Roam), Beverley Bennett a chyfranwyr eraill i’w cyhoeddi.
?️ Dydd Sadwrn 20 Medi (diwrnod croesawu), dydd Gwener a dydd Sadwrn 27-28 Medi, dydd Sadwrn a dydd Sul 12-13 Medi, dydd Gwener a dydd Sadwrn 25-26 Hydref, dydd Gwener 8 Tachwedd (10am i 4pm bob dydd)
? Platfform 2, Gorsaf Drenau’r Fenni, Yr Hen Ysgol, Crughywel, a lleoliadau gwledig eraill
✨ Gweithdai, mynd am dro, sgyrsiau ac ymweliadau
? Ar gyfer 12 o bobl rhwng 18 a 30 oed, sy’n byw o fewn awr i’r Fenni
? Bydd pob cyfranogwr yn cael bwrsariaeth o £500 am eu hamser a’r teithio
? Holi ac ateb: dydd Mercher 31 Gorffennaf, 5-7pm
I gael rhagor o wybodaeth ac i ymgeisio – https://www.peakcymru.org/peak-peers-2024 Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Llun 12 Awst, 9am.