Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn dymuno annog pobl i ymgeisio am grantiau o’r gronfa Cydrannu, er mwyn meithrin a chryfhau cyfleoedd rhwydweithio sy’n bodoli eisoes.

Mae'r arian hwn yn targedu mentrau sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo Cyfartaledd ac Amrywiaeth gan gynnwys (ond heb eithrio):

  • Mynd i’r afael â chynulleidfaoedd anodd eu cyrraedd
  • Datblygu cynulleidfaoedd amrywiol ar gyfer y Celfyddydau
  • Cynyddu ymgyfranogi yn y Celfyddydau ymhlith cymunedau sydd heb gymryd rhan
  • Datblygu modelau ariannu cynaliadwy i gynnal y gweithgarwch hwn 

Mae pob math o rwydweithiau. Mae rhai'n fwy ffurfiol nag eraill; rhai'n fawr, eraill yn fach iawn. Gallent gyfarfod yn rheolaidd neu'n ôl yr angen. Nid oes raid i rwydweithiau'r dyddiau hyn fod yn wyneb yn wyneb - gallant fod ar-lein.

Mae gennym arian sydd ar gael am brosiectau bychain untro yn 2019/20  a gallwn roi hyd at £2,000 y prosiect.

I ymgeisio rhaid llenwi ffurflen gais. Am wybodaeth bellach ewch os gwelwch yn dda at https://arts.wales/cy/ariannu/gwneud-cais/unigolion/cydrannu

Mae’r dyddiad cau nesaf ar gyfer grantiau 27 Medi 2019