Cefndir

Rydym ni am ariannu syniadau sy'n annog creu rhwydweithiau newydd a chryfhau'r cyfleoedd rhai presennol.

Wrth i bawb geisio ymdopi â chanlyniadau'r pandemig, mae'n bwysicach byth ein bod yn cysylltu ar draws y sectorau celfyddydol a diwylliannol, a'n bod yn darparu cymorth a rhannu gwybodaeth.

Rydym ni am weld mentrau sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo a chryfhau amrywiaeth a chynhwysiant ledled y sector ac ehangu ymgysylltiad â chymunedau amrywiol. Mae’n bwysig inni glywed pob llais a bod Mae Bywyd Pobl Dduon o Bwys a Ni Chawn ein Dileu yn parhau i lywio a chyfoethogi’r sector.

Rydym ni’n agored i wahanol syniadau gan gynnwys:

  • ymgysylltu a datblygu cynulleidfaoedd amrywiol
  • hwyluso clywed lleisiau amrywiol ar draws y sector. Rydym ni am gefnogi rhwydweithiau o gymunedau pobl Fyddar, anabl, niwroamrywiol a chymunedau sy’n amrywiol yn ethnig a diwylliannol
  • cynyddu cyfranogi o’r celfyddydau, yn enwedig gan y rhai sydd wedi'u gwahanu neu eu datgysylltu am wahanol resymau economaidd, cymdeithasol a daearyddol ac ati
  • datblygu modelau ariannu cynaliadwy i’r gwaith

Mae rhwydweithiau o bob lliw a llun, yn ffurfiol ac anffurfiol, yn fach ac yn fawr. Bydd rhai’n cyfarfod yn rheolaidd, eraill bob hyn a hyn. Nid oes raid cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb, bydd ar-lein yn gwneud y tro’n burion.

Mae rhwydweithiau'n bwysig i hwyluso'r canlynol:

  • rhannu sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd
  • cynnig cymorth
  • annog cydweithio
  • rhannu adnoddau
  • trafod materion a syniadau

Cefnogi rhwydweithiau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes

Hoffem annog creu rhwydweithiau newydd sy'n cynnull pobl a sefydliadau sy’n rhannu’r un diddordebau a’r anghenion. Byddant yn debycach o ffynnu o dyfu'n naturiol yn y sector yn hytrach na chael eu creu gan rywun allanol fel ni.

Felly dyma’ch cyfle chi. Gallwn roi rhywfaint o arian ar sail untro tuag at gostau:

  • cyfarfodydd i gynnull unigolion neu sefydliadau â diben cyffredin i greu rhwydwaith
  • sefydlu fforwm/cymuned ar-lein

Rydym ni am gynnwys rhwydweithiau sy'n bodoli eisoes hefyd. Rydym ni’n awyddus i archwilio sut i’w datblygu drwy ariannu digwyddiad untro i gynyddu eu gallu neu nifer eu haelodau, er enghraifft.

Rydym ni â meddwl agored o ran cefnogi gwahanol rwydweithiau a grwpiau – rhai dan arweiniad artistiaid, rhai lleol a rhanbarthol neu rai sy’n benodol i gelfyddyd neu weithgarwch. Gyda rhai newydd, rydym ni am weld tystiolaeth o ddiben cyffredin clir. Rhaid inni hefyd gael gwybod a fydd y gweithgarwch wedyn yn hunangynhaliol.

Cymorth

Gweler y canllawiau isod. 

Nodiadau cymorth gyda chyllid26.03.2023

Canllawiau Cronfa Cydrannu