Eleni, drwy gyfrwng Bwrsari Ein Llais 2025 bydd Our Voice Network/Rhwydwaith Ein Llais – mewn partneriaeth gyda Ballet Cymru – yn cefnogi Shakeera Ahmun a Jadyn Bagayas i ddatblygu fel coreograffwyr ac i ffurfio cysylltiadau yn sector y celfyddydau yng Nghymru fydd yn arwain at gyfleoedd i deithio a chyflwyno eu gwaith. 

Dewiswyd y rhai i dderbyn Bwrsari Ein Llais 2025 drwy broses agored, lle bu rhai a chanddynt lai na dwy flynedd o brofiad mewn teithio eu gwaith, yn arddangos ymarfer coreograffig trwyadl, teg er lles y cyhoedd. 

Shakeera Ahmun

Mae Shakeera, sy’n byw yng Nghaerdydd, yn artist symudiadau sy’n teimlo’n angerddol ynghylch archwilio adrodd straeon drwy symudiadau a pherfformiad. A hithau eisoes wedi gweithio ar ddarnau coreograffig unigol, mae hi’n edrych ymlaen yn gyffrous at archwilio ei hymarfer coreograffig ymhellach gyda dawnswyr Ballet Cymru drwy gyfrwng bwrsari coreograffig Rhwydwaith Ein Llais, a chysylltu â’r cwmni yn ei gyfanrwydd.

Jadyn Bagayas 

Dawnsiwr Filipina a pherson creadigol o Seland Newydd yw Jadyn Arriola Bagayas. Hyfforddwyd hi yn Efrog Newydd gyda’r Ballet Academy East a Ballet Rhode Island, ac mae hi bellach yn ddawnsiwr Cyn-Broffesiynol gyda Ballet Cymru yng Nghasnewydd. Nod Jadyn yw ysbrydoli eraill yn y modd y mae dawns yn parhau i’w hysbrydoli hi ei hun – gan greu gwaith sy’n cysylltu ac yn mynegi straeon ystyrlon drwy symudiadau a chydweithredu.                                                                             

Bydd y derbynwyr llwyddiannus yn cael cefnogaeth am un flwyddyn 
(Medi 2025 – Awst 2026) yn y ffyrdd canlynol:

  • sesiynau mentora misol gyda staff Ballet Cymru i gefnogi eu datblygiad fel coreograffwyr;
  • cefnogaeth gan Krystal S. Lowe – artist a sylfaenydd Rhwydwaith Ein Llais –  yn cynnwys cymorth i lunio ceisiadau a CV, adborth ar syniadau, dod o hyd i waith a chyfleoedd, ac adeiladu cysylltiadau gyda phobl yn sector y celfyddydau i gefnogi datblygiad parhaus yn eu gyrfa;
  • arddangosiad cyhoeddus o’u gwaith yn nigwyddiad Rhannu Ein Llais 2026 a gynhelir yn Ballet Cymru, wedi’i gynhyrchu gan Krystal S. Lowe;
  • bwrsari o £600 i dalu am gostau ac amser i ddatblygu eu ffurf ar gelfyddyd. 

“Mae Ballet Cymru yn hynod falch o bartneru gyda Rhwydwaith Ein Llais i gefnogi Shakeera Ahmun a Jadyn Bagayas yn eu datblygiad fel coreograffwyr, a’u cysylltu hwy â chyfleoedd i deithio eu gwaith ledled Cymru. Drwy gydol y flwyddyn hon edrychwn ymlaen at agor ein drysau iddynt i gefnogi eu datblygiad yn unol â’n nodau ehangach fel mudiad i ddyrchafu a datblygu amrywiaeth ehangach o goreograffwyr o Gymru a rhai sydd wedi sefydlu yng Nghymru.” 

-- Darius James, Cyfarwyddwr Artistig Ballet Cymru, ac Amy Doughty, Cyfarwyddwr Artistig: Ymgysylltu a Hyfforddi 

“Eleni, ym mhedwaredd flwyddyn Bwrsari Ein Llais, rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i ffocysu ar gefnogi coreograffwyr i ddatblygu eu gwaith ar gyfer teithio. Mae Shakeera Ahmun a Jadyn Bagayas wedi ymrwymo i’w crefft fel coreograffwyr, a chanddynt weledigaeth glir ar gyfer eu gwaith; mae ganddynt hefyd bortffolio trawiadol o waith sy’n haeddu cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach. Drwy gydol y flwyddyn hon, mae’n anrhydedd i mi gael sefyll ochr yn ochr â’r menywod anhygoel hyn i hyrwyddo eu gwaith.”

– Krystal S. Lowe, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gweithredol Rhwydwaith Ein Llais