Cyflwyniad i Pitch Deck - John Yorke Story
Dyddiadau hyfforddiant - Sylwch fod rhaid i chi fynychu'r ddau ddiwrnod isod
Dydd Sadwrn 9 Mawrth - Sesiwn 1 @ 10am i 5pm (Ar-lein)
Dydd Sadwrn 23 Mawrth - Sesiwn 2 @ 10am - 3pm (Ar-lein)
Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal yn Saesneg.
Trosolwg
Hyfforddiant deuddydd ymarferol wedi'i gynllunio ar gyfer unrhyw un sy'n gwybod bod angen iddynt gyflwyno mwy na dogfen Word i gael sylw comisiynwyr. Rydym yn croesawu awduron a chynhyrchwyr sy'n gweithio ar syniad sgript, dogfen, neu fformat heb ei sgriptio, cyfres, peilot, radio, podlediad neu gynnig llyfrau.
Nod
Mae'r hyfforddiant hwn yn caniatáu i chi:
- Ymarfer a pherffeithio'ch sgiliau cyflwyno.
- Darganfod pam nad yw eich sgiliau Pitsio yn taro'r nod – a ffyrdd o drwsio hynny.
- Dysgu sut i weld eich stori mewn ffordd weledol fwy effeithiol.
- Defnyddio PowerPoint (neu Canva, Keynote, Photoshop neu gyfwerth) i gymhwyso delweddau, ffontiau ac arddulliau dylunio sy'n helpu'ch syniadau neidio oddi ar y dudalen.
- Cael Templed y gellir ei gymhwyso i'ch holl syniadau yn y dyfodol
- Adnewyddu eich sgiliau stori a defnyddio egwyddorion naratif i egluro syniad i eraill.
- Tynnu eich sylw, a rhoi mwy o reolaeth dros ddrama eich pist.
- Ennill gwell dealltwriaeth o ddisgwyliadau a phrosesau'r diwydiant.
- Ymarfer rhoi adborth effeithiol a derbyn nodiadau beirniadol gan eraill yn y diwydiannau creadigol.
Erbyn diwedd yr hyfforddiant byddwch yn gallu:
- Dangos a disgrifio'r hyn sy'n gwneud stori lwyddiannus, a ffactorau sy'n denu cynhyrchwyr, comisiynwyr a chyllidwyr i syniad.
- Adeiladu Pitch Deck sy'n edrych yn broffesiynol o'r dechrau i'r diwedd.
- Meddwl am y broses pitsio a sut mae'r gwahanol elfennau o fewn Pitch Deck yn gwerthu syniad.
- Mabwysiadu meddylfryd 'y tu allan i'r bocs' gyda delweddaeth a dyluniad.
- Edrych ar syniad mewn ffordd hollol wahanol a sicrhau bod chi'n ei wybod y tu mewn a'r tu allan.
- Defnyddio teclynau adeiladu Pitch Deck gan gan ddefnyddio eich meddalwedd dewisol.
- Cyfathrebu iaith gyffredin a chynyddu hyder wrth weithio i gyflwyno stori ac wrth roi/derbyn nodiadau.
Bydd angen i gyfranogwyr ddod â: syniad i weithio arno, gliniadur ynghyd â meddalwedd a chymhwysedd sylfaenol yn PowerPoint neu'r offeryn creu dec cyfatebol a ffefrir gennych (ee Canva, Keynote, Photoshop).