At bwy y mae'n cael ei anelu?

Final Draft yw'r prif feddalwedd ar gyfer drafftio sgriptiau ar gyfer y sgrîn. Mae'r gweithdy hwn yn berffaith i unrhyw un sy'n dymuno deall y tu mewn a'r tu allan i'r Final Draft12, p'un a ydych yn sgriptiwr profiadol, yn olygydd sgriptiau neu'n rhywun sy'n dyheu am ysgrifennu ar gyfer y sgrin.

Nod y cwrs?

Mae Final Draft 12 yn arweiniol wrth greu ac adolygu sgriptiau o bob math, a dyma'r offeryn i ddechreuwyr a sgriptwyr profiadol. Nod y cwrs undydd hwn yw rhoi trosolwg cynhwysfawr o Final Draft 12 i gyfranogwyr. Bydd y gweithdy hwn yn archwilio meddalwedd ysgrifennu sgript Final Draft o'r top i'r gwaelod.

Erbyn diwedd yr hyfforddiant dylwch gallu:

  • Dangos sut i ddefnyddio fformatio awtomatig
  • Creu templedi
  • Defnyddio golygydd amlinellol.
  • Archwilio modd cynhyrchu
  • Defnyddio nodiadau sgript
  • Llywio sut orau i weithio yn y modd adolygu.

Beth i'w baratoi? Dewch â'ch gliniadur eich hun ar y diwrnod, bydd angen Final Draft 12 arnoch ar eich system. Dilynwch y ddolen isod i lawrlwytho'r feddalwedd a chymryd mantais o dreial am ddim am 30 diwrnod.

 

Final Draft 12 - Treial am ddim am 30 diwrnod

Hyfforddwr - Ian Staples

Mae Ian Staples wedi bod yn awdur proffesiynol ers bron i 30 mlynedd gyda chredydau mewn radio a theatr teledu ffilm. Mae hefyd yn dysgu yn yr Atrium, Prifysgol De Cymru ac ef yw arweinydd y cwrs MA sgriptio yno. Mae e hefyd yn aelod o Uneb y Sgwenwyr.

Dyddiad cau: 24/11/2023