Mae C&B Cymru yn falch iawn o gynnig y cyfle i chi gyflwyno cynnig i ddyfeisio a chyflwyno prosiect ar gyfer un o’i aelodau busnes.

Mae Cartefi Conwy yn dymuno comisiynu cyfres o weithiau celf cyhoeddus dros dro fel rhan o'i safle datblygu ar Stryd y Farchnad, Abergele. Mae cynllun Porth Gorllewinol Abergele yn ddatblygiad hirdymor ac mae'r busnes eisiau darparu buddion diriaethol i'r gymuned yn ystod y cyfnod hwn. Mae'n dymuno sefydlu ardal ar gornel y safle i bobl leol ryngweithio â'r gofod mewn modd cadarnhaol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais e-bostiwch contactus@aandbcymru.org.uk am y briff llawn, dylid dychwelyd y cais erbyn dydd Llun 11 Mawrth 2024 fan bellaf.

Dyddiad cau: 11/03/2024