Cyfle Celfyddydau & Busnes Cymru
Crefft Brains
Fe’ch gwahoddir i gyflwyno cais ar gyfer comisiwn newydd sy’n cael ei gynnig gan Fragdy Brains.
Cyflwyniad
Mae Bragdy Brains, un o frandiau enwocaf Cymru, yn ail-lansio ei ddetholiad o Gwrw Cynnyrch Cyfyngedig fel rhan o ymgyrch ailfrandio ehangach. Mae Cwrw Cynnyrch Cyfyngedig yn cael ei werthu mewn tafarnau am gyfnodau penodol (e.e. y Nadolig, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ac ati). Mae pob cwrw ar gael am 4-6 wythnos fel arfer, ac mae 4-6 Cynnyrch Cyfyngedig ar gael drwy gydol y flwyddyn.
Cydweithio ag Artist
Mae Brains eisiau comisiynu artistiaid Cymreig neu sydd wedi’u lleoli yng Nghymru i greu gwaith celf ar gyfer pob cwrw Cynnyrch Cyfyngedig, gan ddechrau gyda’r ddau gwrw Nadolig – Santa’s Ale a Santa’s Blotto (mae’n awyddus i ailenwi’r olaf a byddai’n croesawu awgrymiadau). Bydd y cwrw’n cael ei werthu mewn tafarnau yn ystod tymor yr ŵyl.
Y cynnig
Mae Brains yn gwahodd syniadau dylunio ar gyfer Santa’s Ale a / neu Santa’s Blotto, a grëwyd i weithio gyda’r templed a ddarperir yma. Fe ddylai’r syniad gael ei gyflenwi ar ffurf ddigidol a gweddu i thema’r cwrw. Yn gyfnewid am hynny:
- Bydd y gwaith celf a ddewisir yn cael ei ddefnyddio ar glipiau pwmp mewn tafarnau ledled Cymru (ac efallai’r Deyrnas Unedig).
- Bydd yr artist yn ymddangos mewn ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â’r Cynnyrch Cyfyngedig, yn ogystal ag ar wefan Brains.
- Bydd ffi o £500 yn cael ei thalu ar gyfer pob dyluniad a ddewisir.
Mae Brains hefyd yn bwriadu cynhyrchu nwyddau sy’n cynnwys y gwaith celf a ddewisir. Bydd y rhain yn cael eu gwerthu trwy ei siop ar-lein a byddai’n falch o drafod opsiynau rhannu elw gyda’r artist a ddewisir.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno dyluniad, llenwch y ffurflen isod a’i dychwelyd, ynghyd â’r gwaith celf arfaethedig, i contactus@aandbcymru.org.uk erbyn dydd Gwener 17 Hydref fan bellaf.