Mae Engage, y Gymdeithas Addysg Orielau Genedlaethol, yn dechrau ar gyfnod trawsnewidiol yn dilyn ymadawiad y cyfarwyddwr ar ôl 20 mlynedd. Rydym ni’n edrych am Gyfarwyddwr a Phrif Swyddog Gweithredol deinamig â gweledigaeth i arwain Engage i’r bennod nesaf. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn eiriolwr angerddol dros ymgysylltu â’r celfyddydau gweledol, gyda chrebwyll strategol a sgiliau arwain i lywio sefydliad cenedlaethol uchel ei barch drwy adnewyddu a thwf.
Mae’r rôl yn cynnwys gosod a chyflawni cenhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd Engage gyda’r Bwrdd, sicrhau llywodraethu cryf, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chynaladwyedd ariannol. Bydd y Cyfarwyddwr yn arwain tîm cynhwysol medrus ac yn goruchwylio gweithrediadau, cydymffurfiaeth, a gwaith gydag aelodau. Bydd sbarduno arloesi, amrywio incwm a pherthnasedd y sector yn ffocws allweddol.
Bydd deiliad y swydd yn cynrychioli Engage yn gyhoeddus, yn hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant, ac yn meithrin diwylliant o ddysgu a gwella parhaus. Rydym ni’n edrych am unigolyn â chymhelliad uchel a sgiliau cyfathrebu a negodi rhagorol, arbenigedd dwys mewn ymgysylltu â’r celfyddydau gweledol, a dull arwain cydweithredol, ymarferol.
Mae hwn yn gyfle unigryw i ffurfio dyfodol addysg ac ymgysylltu â’r celfyddydau gweledol yn y DU, gan gael effaith barhaus ar y sector a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.