Manylion y Swydd
Math o Swydd : Swydd Llawn amser (gyda rhywfaint o hyblygrwydd)
Adrodd i : Prif Weithredwr
Cyflog : I’w drafod, yn unol â phrofiad ac arbenigedd
Rydym ni’n chwilio am Gyfarwyddwr Gweithredol llawn egni ac uniondeb. Mae hon yn swydd allweddol yn nhîm arwain Cwmni Da.
Bydd yn helpu i gadw trefn, symleiddio prosesau, cefnogi’r tîm, a sicrhau bod y gwaith creadigol yn gallu disgleirio. Mae hwn yn gyfle i weithio mewn sefydliad sy’n llawn sbardun ac ysbryd tîm, agored, cydweithredol ac yn rhoi’r Gymraeg wrth galon bob dim.
Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys y disgrifiad swydd lawn a manyleb y person, lawr lwythwch a darllenwch ein pecyn recriwtio.
Mae’r gallu i weithio’n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.
Dyddiad cau: 29/08/2025