Manylion y Swydd

Math o Swydd : Swydd Llawn amser (gyda rhywfaint o hyblygrwydd)

Adrodd i : Prif Weithredwr

Cyflog : I’w drafod, yn unol â phrofiad ac arbenigedd

Parod i arwain y gâd ym myd y cyfryngau Cymraeg?

Mae Cwmni Da yn chwilio am arweinydd deinamig â chanddynt weledigaeth gref a chyffrous.

Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Cynnwys i ymuno â’n tîm yng Nghaernarfon, ar lannau’r Fenai. Mae hon yn gyfle unigryw i yrru ac i lunio dyfodol un o gwmnïau cynhyrchu mwyaf llwyddiannus Cymru.

Mae’r Gymraeg yn greiddiol i hunaniaeth Cwmni Da. Rydym yn disgwyl parch tuag at yr iaith ym mhob rôl ac yn croesawu pawb sy’n barod i gyfrannu’n gadarnhaol at ein diwylliant ddwyieithog. Rydym yn cynnig cefnogaeth ymarferol i bawb sydd eisiau datblygu eu hyder a’u defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith. 

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys y disgrifiad swydd lawn a manyleb y person, lawr lwythwch a darllenwch ein pecyn recriwtio.
 

Dyddiad cau: 29/08/2025