Yn ystod tair blynedd gyda NTW, mae Kully wedi arwain y gwaith o greu 25 o weithiau ar draws Cymru a thu hwnt gan gynnwys City of the Unexpected, We’re Still Here a Tide Whisperer.

Meddai Clive Jones, Cadeirydd NTW: "Mae Kully wedi arwain NTW gyda dawn, egni ac ymrwymiad arbennig dros y tair blynedd diwethaf a bydd yn ddrwg iawn gennym ei cholli hi.

Dangoswyd ei rhinweddau fel cyfarwyddwr gyda'i chynhyrchiad gwych o Tide Whisperer ar draethau Dinbych-y-Pysgod y llynedd.

Mae'n gadael gwaddol ardderchog gyda chynllun strategol cryf yn cael ei ddatblygu yn dilyn ymgynghori a sgwrsio helaeth gyda'n hystod amrywiol o artistiaid a phartneriaid creadigol, ynghyd â thymor llawn dathlu o waith fydd yn cael ei ysgrifennu, ei greu a'i berfformio gan artistiaid Cymreig yn 2020, blwyddyn ein dengmlwyddiant. Yn y cyfamser rydym yn croesawu Ed Thomas yn ôl i'r llwyfan wedi hir ymaros gyda'i ddrama newydd On Bear Ridge yn y Sherman, Caerdydd a'r Royal Court yn Llundain yr hydref hwn.

Mae'r gwaith eisoes yn mynd rhagddo i ddod o hyd i olynydd i Kully."

Dywedodd Kully Thiarai: "Rwyf wrth fy modd yn dychwelyd i swydd Efrog i ymgymryd â swydd Cyfarwyddwr Creadigol ar gyfer Leeds 2023. Lle oedd yn gartref i mi am flynyddoedd lawer cyn dod i Gymru. Leeds mewn gwirionedd oedd y man lle dechreuodd fy ngyrfa yn y theatr pan wnaeth Red Ladder Theatre Company fy ngwahodd i ddod i weithio iddyn nhw ar ddiwedd y 1980au. Roeddwn yn gwybod y byddai'n rhaid cael rhywbeth arbennig iawn i'm denu i ffwrdd o National Theatre Wales, sy'n gwmni eithriadol. Arwain y flwyddyn ddiwylliannol ar gyfer Leeds 2023 yw'r peth arbennig hwnnw - cyfle unwaith mewn oes i ddychwelyd i'm gwreiddiau a chwarae fy rhan wrth ysbrydoli cenhedlaeth newydd o artistiaid a chynulleidfaoedd.

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r holl staff, artistiaid, mudiadau a chymunedau gwych yr wyf wedi cael y fraint o weithio gyda hwy yn NTW. Rwy'n falch o'r gwaith yr ydym ni wedi'i greu gyda'n gilydd, o'r epig i'r agos-atoch, ac rwy'n gwbl hyderus y bydd y 10 mlynedd nesaf i'r cwmni mor fywiog ac arbennig ag y bu'r degawd diwethaf."

Dywedodd Ruth Pitt, Cadeirydd Leeds 2023: "Rwyf wrth fy modd y bydd Kully yn ymuno â ni ar y daith hon ac mae'n brawf o ba mor gyffrous yw prosiect Leeds 2023 ein bod wedi llwyddo i ddenu rhywun sydd â hanes mor nodedig o greu gwaith sy'n torri cwys newydd.

Mae ymdeimlad cynyddol o fomentwm o amgylch Leeds 2023 a gyda Kully'n ymuno â ni rwy'n hyderus y gallwn edrych ymlaen at weld rhaglen artistig sy'n crynhoi angerdd a bywiogrwydd Leeds a'i chymunedau niferus."

Bydd Kully yn parhau yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Artistig NTW tan ddiwedd y flwyddyn.