Mae Cwmni Theatr Bara Caws wedi bod yn cyflwyno cynyrchiadau Cymraeg o bob math yng nghalon cymunedau Cymru ers bron i 50 mlynedd. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am aelod newydd i ymuno â’r Tîm Rheoli fel Cyfarwyddwr Artistig. Dyma gyfle gwych (a phrin!) i’r ymgeisydd llwyddiannus chwarae rhan yng ngham nesaf cyffrous y Cwmni unigryw yma.
Tyrd efo ni ar y daith!
Bydd deiliad y swydd yn arwain ar ein gweledigaeth greadigol wrth i ni gamu i gyfnod newydd cyffrous. Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol sy’n rhannu ein gwerthoedd ac sy’n barod i arwain y cwmni’n artistig ac yn strategol.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd fis Ionawr 2026.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
I dderbyn y swydd ddisgrifiad lawn cysylltwch â Mari Emlyn - gwybodaeth@theatrbaracaws.co.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 27 Awst 2025.