Rhan Amser - Cytundeb Cyfnod Penodol Mai 2026

Mae WNO yn rhannu grym cerddoriaeth glasurol ac opera fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn lle creadigol a llawn ysbrydoliaeth ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth symud ymlaen â'n blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.

Y Rôl

Rydym yn chwilio am Gydlynydd Prosiect Celfyddydau a Iechyd Dwyieithog ar hyn o bryd. Bydd y rôl yn darparu amrywiaeth o waith cydlynu, cyfathrebu a chefnogaeth prosiect ar draws ein rhaglen Lles gyda WNO. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gyfle i weithio ar ein rhaglen genedlaethol ar gyfer unigolion sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar nerth a lludded ôl-feirysol, a gefnogir gan fyrddau iechyd GIG Cymru.

Mae hon yn swydd cyfnod penodol sydd wedi ei hariannu gan gyllid Loteri'r Celfyddydau, Iechyd a Llesiant, Cyngor Celfyddydau Cymru, a bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau monitro’r KPI (monitro dangosydd perfformiad allweddol) a chyfrannu at gasglu data a gofynion adrodd drwy gytundeb ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?

  • Cynnal gweithdai zoom Lles gyda WNO a chyfarfodydd un-i-un fel cynrychiolydd y WNO a ‘gwesteiwr digidol’.
  • Bod yn brif bwynt cyswllt i gyfranogwyr Cymraeg a Saesneg y prosiect, gan gynnwys ymdrin ag ymholiadau drwy e-bost ac ar y ffôn, trosglwyddo amserlenni, cyflwyno pecynnau croeso ac adnoddau eraill.
  • Cyfrannu at gynllunio prosiect a logisteg y prosiect, gan gynnwys creu a chynnal cronfeydd data a chofrestri.
  • Hyrwyddo recriwtio cyfranogwyr newydd ledled Cymru, a all elwa o’r rhaglen, ar-lein ac wyneb yn wyneb (gyda'r posibilrwydd o deithio ledled Cymru yn achlysurol).

Beth fydd ei angen arnoch chi?

  • Byddwch yn gallu siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl.
  • Bydd gennych ddealltwriaeth gref o ddiwylliant yng Nghymru a sefydliadau celfyddydol sy’n gweithio ym maes llesiant.
  • Profiad amlwg o weithio yn y celfyddydau ac iechyd neu mewn lleoliadau sy’n canolbwyntio ar y gymuned.
  • Profiad o ddatblygu systemau a gweithdrefnau gweinyddol effeithiol.
  • Sgiliau cyfathrebu a TG ardderchog.
  • Rydych yn hyblyg ac yn gallu addasu; yn gweithio’n galed ac yn egnïol.
  • Yn gallu gweithio’n annibynnol ac ar eich menter eich hun yn ogystal â mewn tîm.

Beth allwn ni ei gynnig i chi?

Cyflog Cystadleuol

£25,055 y flwyddyn pro rata

Gwyliau Blynyddol

Mae gan gydweithwyr yr hawl i 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata ar gyfer oriau rhan amser) bob blwyddyn wyliau lawn sy’n mynd o 1af Medi i 31 Awst. Mae gwyliau banc a chyhoeddus yn ychwanegol at hyn. Ar ôl 5 mlynedd, bydd eich gwyliau yn cynyddu i 28 diwrnod.

Pensiwn

Mae'r holl weithwyr yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO (y "Cynllun") neu unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig arall a sefydlir gan y Cwmni fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys, dri mis ar ôl ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol.

Gostyngiadau

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr mewn allfeydd dethol yn yr adeilad a bwytai dethol o amgylch Bae Caerdydd wrth gyflwyno cardiau adnabod. Cyfradd ostyngol gyda gwesty Future Inn yng Nghaerdydd.

Gostyngiad Parcio Staff gyda Q Park

Mae gennym gyfradd gorfforaethol gyda Q Park, Stryd Pierhead (gyferbyn â CMC).

Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Rydym yn cynnig gwasanaeth cwnsela a chynghori cyfrinachol am ddim sydd ar gael i'n holl weithwyr, gweithwyr llawrydd a chontractwyr.

Gwersi Cymraeg

Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac rydym yn cynnig gwersi Cymraeg sylfaenol a gwersi gloywi dewisol yn rhad ac am ddim.

Os ydych yn chwilio am yr her nesaf, gwnewch gais heddiw. Croesawir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg fel ei gilydd.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl, cysylltwch â: Carys Davies ar carys.davies@wno.org.uk
 

Dyddiad cau: 14/09/2025