Pecyn Swydd

Band - C

Mae sgiliau yn yr iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon / Welsh language skills are essential for this role

Cyflog : £26,710 - £30,000 y flwyddyn yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad

Cyflwyniad i'r Swydd

Mae gan Gerddorfa Genedlaethol y BBC a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC rôl arbennig fel cerddorfa ddarlledu’r BBC a cherddorfa symffoni genedlaethol Cymru. Mae'r Gerddorfa’n cael cymorth hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae’n falch o gael gweithio gyda grŵp arbennig iawn o arweinyddion.  Mae’r Gerddorfa wedi’i lleoli yn Neuadd Hoddinott ym Mae Caerdydd. 

Fel un o chwe Cherddorfa a Chorws y BBC, mae gan y Gerddorfa amserlen brysur o recordiadau, darllediadau a chyngherddau ar gyfer BBC Radio 3, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru, Ffilmiau'r BBC a theledu’r BBC. Mae addysg a dysgu wrth galon ein gwaith hefyd, ac rydym yn datblygu prosiectau arloesol i wneud cerddoriaeth glasurol yn fwy hygyrch ac ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru. 

Mae’r Cydlynydd Busnes yn ganolog i’r gwaith o gyflawni’r gerddorfa’n weithredol ac yn ariannol, a bydd yn gweithio gyda chleientiaid allanol i drefnu digwyddiadau allanol yn Neuadd Hoddinott y BBC.

Prif Gyfrifoldebau

Dyma gyfrifoldebau’r swydd hon:

  • Cynnal a datblygu cysylltiadau gwaith cryf â cherddorion, cyflenwyr, cleientiaid llogi allanol a gwesteion yn rhagweithiol. 
  • Goruchwylio gweinyddiaeth ariannol yr Adran Gweithrediadau, codi archebion prynu a gwerthu, a diweddaru cofnodion a’r gyllideb ar y cyd â’r Rheolwr Busnes Cynhyrchu a’r Tîm Gweithrediadau.
  • Codi contractau ar gyfer holl gostau a ffioedd artistiaid gwadd, cyfansoddwyr a cherddorion llawrydd mewn cydweithrediad â’r timau Cynhyrchu Artistig a Hawliau Masnachol a Materion Busnes, yn unol â Chytundeb Llawrydd Undeb y BBC/Cerddorion ar system contractau’r BBC (SAP) a sicrhau taliad prydlon dilynol.
  • Gwneud trefniadau teithio (ee bysus, trenau) ac archebu gwestai ar gyfer gweithgareddau teithio’r gerddorfa yn y DU. Casglu gwaith papur perthnasol a chyfathrebu manylion, gan sicrhau bod archebion yn cael eu cadw’n gywir, yn gyfredol ac o fewn y gyllideb.
  • Gweithio gyda Rheolwr y Gerddorfa i brosesu a thracio treuliau a hyfforddiant cerddorion y BBC ac i ariannu hawliadau drwy system dreuliau’r BBC.
  • Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau llogi allanol, cwrdd â darpar gleientiaid ar gyfer ymweliadau safle, ymgymryd â’r gwaith o gynllunio a rheoli archebion llogi allanol a digwyddiadau ar gyfer Neuadd Hoddinott gan ddefnyddio’r capasiti sbâr. Bydd angen lefel o hyblygrwydd gan gynnwys gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau.
  • Cysylltu â’r Rheolwr Llwyfan a Thechnegol a’r Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol i sefydlu a goruchwylio’r holl drefniadau logistaidd a thechnegol sydd eu hangen ar gyfer llogi allanol, gan nodi ac amserlennu criw llawrydd yn ôl yr angen. 

 

Ai chi yw'r person cywir?

Rydym yn chwilio am rywun sy’n meddu ar y canlynol:

  • Sgiliau gweinyddol rhagorol, llygad craff i sylwi ar fanylion a’r gallu i ddelio â data a gwybodaeth breifat yn sensitif, cadw cofnodion cywir a defnyddio systemau busnes yn gywir;
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn ogystal â’r gallu i sefydlu perthynas effeithiol yn y tymor byr a’r tymor hir gydag amrywiaeth eang o bobl, talentau, partneriaid ac asiantaethau;
  • Profiad o gynllunio a chyflwyno amrywiaeth/rhannau o brosiectau/digwyddiadau;
  • Sgiliau TG ardderchog, gyda gwybodaeth ymarferol dda o Microsoft Office;
  • Sgiliau cynllunio a threfnu effeithiol, gallu goruchwylio sawl math o waith ar yr un pryd, blaenoriaethu amrywiaeth o weithgareddau, cyflawni o fewn amserlenni tynn yn gyson ac ymateb yn gadarnhaol i newidiadau a blaenoriaethau sy'n gwrthdaro;
  • Gallu ystyried amrywiaeth o broblemau a defnyddio ei grebwyll ei hun i roi atebion effeithiol ar waith yn rhagweithiol, pan fo amser yn bwysig iawn. 
Dyddiad cau: 29/04/2024