Estynodd Cyngor Celfyddydau Cymru groeso cynnes heddiw i'r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd i Gymru a gyhoeddwyd heddiw, 30 Ebrill 2019, gan yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams AC.
Gan siarad heddiw, dywedodd Diane Hebb,Cyfarwyddwr Ymgysylltu ac Ymgyfranogi Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Rydym yn falch tu hwnt bod Cwricwlwm Cenedlaethol Newydd Cymru, a gyhoeddwyd heddiw, yn adlewyrchu rhaglen ddysgu creadigol trwy'r celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru - sydd wedi bod yn weithredol ers 2015. Mae wedi canolbwyntio ar wella a chynyddu'r cyfleoedd i brofi'r celfyddydau, a datblygu medrau creadigol er mwyn trawsnewid dysgu ar draws y cwricwlwm cyfan. Mae hyn wedi hybu cyrhaeddiad ym meysydd llythrennedd a rhifedd.
“Mae dros 100,000 o ddisgyblion bellach wedi cael budd o'r rhaglen, ac mae tystoliaeth amlwg ein bod trwy feithrin a datblygu creadigrwydd ein dysgwyr, trwy ddysgu wedi ei wreiddio yn y celfyddydau, yn gweld datblygiad amlwg tuag at wireddu eu potensial addysgiadol a'u hybu i ddod yn ddiansyddion cyfrifol Cymru a'r byd.
“Gobeithiwn y bydd y cwricwlwm newydd, fel y gwelwyd trwy raglen Dysgu creadigol trwy'r celfyddydau, yn cyfrannu at leihau'r bwlch rhwng y disgyblion sy'n perfformio orau a'r rhai nad ydynt yn perfformio cystal. Edrychwn ymlaen at gyfrannu i ddatblygiad y cwricwlwm dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.”