Dewch i gwrdd â'r wyth artist a enillodd Comisiwn DAC yn 2024. Darganfyddwch beth wnaethon nhw i ennill y comisiwn a beth maen nhw wedi'i chreu gydag e. Mae yna amrywiaeth fawr o waith, o baentiad gyda chodau QR hunangyfeiriol, gosodiad, cyfres o weithdai barddoniaeth gyda phobl ifanc sydd wedi'u hymylu, byd gwlân du a choch, a mwy.
Digwyddiad Hybrid yw hwn. Gallwch fynychu ar-lein fel arfer neu fynd i'r 'Shed Space' yn Ysgol Gelf Wrecsam, lle bydd rhai artistiaid yn ymuno mewn person a bydd eraill hefyd yn ymuno ar-lein. Rydym yn gobeithio y byddwch yn manteisio ar y cyfle i gwrdd â rhai aelodau DAC eraill yng Ngogledd Cymru.
Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim ond cofrestrwch i roi gwybod i ni eich bod chi'n dod trwy gofrestru yma.