Taniwch eich Dychymyg
Swydd: Crëwr Preswyl Tik Tok
Adran: Cynulleidfaoedd a Brand
Yn Adrodd i’r: Golygydd Digidol
Math o Swydd: Rhan amser, Cytundeb Llawrydd
Cytundeb: 12 mis, £15,000 y flwyddyn (cyfanswm o oddeutu 5/6 diwrnod y mis)
Amdanom Ni
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf, o sioeau cerdd a chomedi i ddawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant Cymru. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau gyda phrofiadau dysgu sy’n newid eu bywydau a chyfleoedd i ddisgleirio.
Crynodeb o’r Swydd
Ydych chi’n grëwr digidol arbenigol sydd yn angerddol am berfformiadau a chreadigrwydd o bob math? Rydyn ni’n chwilio am Grëwr Preswyl Tik Tok disglair a llawn dychymyg i ymuno â’n tîm yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a helpu i adrodd ein stori, ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd a thyfu ein cymuned TikTok.
Fel ein ‘TikTokiwr’ preswyl, byddwch yn gwthio presenoldeb ein brand drwy ddatblygu a gweithredu strategaethau cynnwys sy’n cyffwrdd â’r gynulleidfa darged, ac yn creu cynnwys craff sy’n adrodd stori ein brand ac yn cynyddu ymgysylltiad. Byddwch ar flaen y gad gyda’n hymdrechion cyfryngau cymdeithasol ar TikTok, gan ddod â syniadau a threndiau ffres yn fyw. Byddwch yn gyfforddus fel wyneb Canolfan Mileniwm Cymru ar TikTok, ac fel sefydliad dwyieithog, mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fantais.
Cyfrifoldebau Allweddol
Creu Cynnwys:
- Datblygu, ffilmio a golygu fideos TikTok gafaelgar (1–2 yr wythnos) sy’n gweddu hunaniaeth ein brand, ein blaenoriaethau o ran adrodd stori a’n hymgyrchoedd marchnata.
- Cynhyrchu amrywiaeth o fathau o gynnwys, megis heriau, trendiau, tiwtorialau, golygfeydd cefn llwyfan, adrodd stori a mwy.
- Sicrhau bod pob darn o gynnwys yn gweddu i’n brand, yn ddwyieithog, yn gyson o ran arddull ac ansawdd ac wedi’i optimeiddio ar gyfer perfformiad.
Datblygu Strategaeth:
- Cydweithio â’r tîm marchnata i ddatblygu a gweithredu strategaethau a chynlluniau TikTok.
- Cadw wrth fron trendiau TikTok, newidiadau mewn algorithm ac arfer gorau er mwyn sicrhau bod y cynnwys yn parhau i fod yn berthnasol ac effeithiol.
- Defnyddio dadansoddeg i fesur llwyddiant y cynnwys a gwneud penderfyniadau sydd wedi’u harwain gan ddata. Cyfrannu at adroddiadau chwarterol y sefydliad i ddangos effaith.
Ymgysylltu:
- Ymgysylltu â’r gymuned TikTok drwy ymateb i sylwadau, cymryd rhan mewn trendiau a chydweithio â chrewyr eraill.
- Meithrin teimlad o gymuned drwy gynnwys rhyngweithiol a dilys.
Targedau Allweddol
- 1–2 postiad Tik Tok yr wythnos.
- Creu cynnwys sy’n dangos ystod lawn ein rhaglen – o sioeau masnachol, ein rhaglen cabaret, profiadau ymdrochol a’n cynyrchiadau ein hunain i’n gwaith gyda phobl ifanc ac artistiaid.
- Cydweithio â’n tîm mewnol i bennu cynnydd yn ein cyrhaeddiad, ein hymgysylltiad a’n dilynwyr.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol y canlynol:
- Tystiolaeth o brofiad fel crëwr TikTok gyda phortffolio o gynnwys llwyddiannus.
- Dealltwriaeth gadarn o blatfform, trendiau a chynulleidfa Tik Tok.
- Sgiliau golygu fideo ardderchog, yn gyfarwydd ag offer a meddalwedd golygu a sgiliau dylunio graffeg sylfaenol.
- Y gallu i feddwl yn greadigol a chreu syniadau cynnwys arloesol.
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cadarn; yn ddelfrydol yn gallu siarad Cymraeg.
- Angerdd dros ddiwylliant a’r celfyddydau yng Nghymru.
Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig:
- Oriau gweithio hyblyg (er, nodwch os gwelwch yn dda y bydd y rhan fwyaf o’r ffilmio yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar amseroedd penodedig).
- Mynediad am ddim i berfformiadau, sioeau a digwyddiadau a raglennir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, pan yn briodol.
- Cyfle i gael effaith sylweddol ar ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, datblygu sgiliau a chael profiad mewn sefydliad cenedlaethol.
Sut i wneud cais:
Anfonwch eich CV, llythyr cyflwyno byr neu fideo yn esbonio pam y byddech yn addas ar gyfer y rôl, yn ogystal â phortffolio o’ch cynnwys TikTok i marchnata@wmc.org.uk.