Mae Partneriaeth Corsydd Calon Môn yn brosiect cydweithredol sy'n gweithio i sicrhau dyfodol Corsydd Môn a dathlu eu hanes cyfoethog.

Mae rhagor o wybodaeth am Gorsydd Calon Môn ar gael yma.

Dyddiad cau: 12 hanner dydd, 29 Awst 2025

Hawdd i Ddeall ac IAP ar gael yma.

Y Comisiwn

Mae Corsydd Calon Môn yn gweithio mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru i gefnogi comisiwn gan artistiaid anabl, b/Byddar neu niwrowahanol sy'n archwilio safleoedd y corsydd.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn gwaith sy'n myfyrio ar y themâu canlynol:

● Treftadaeth

● Cadwraeth

● Mynediad

Bydd yr artist/artistiaid yn cael eu cefnogi gan Gorsydd Calon Môn a Chelfyddydau Anabledd Cymru.

Bydd Corsydd Calon Môn yn:

● Darparu mynediad i'r safle a gwybodaeth gefndir

● Cysylltu'r artist â gweithwyr proffesiynol ym maes cadwraeth, treftadaeth, gwyddoniaeth a rheoli tir

Bydd Celfyddydau Anabledd Cymru yn:

● Cefnogi gyda rhwydweithiau creadigol, mentora a chyfleoedd i arddangos

● Gweithio ochr yn ochr â'r artist/artistiaid i archwilio mynediad i'r safleoedd ac oddi mewn iddynt

Rydym wedi ymrwymo i leihau rhwystrau. Rhowch wybod i ni os oes angen cymorth arnoch i wneud cais neu i gyflawni'r gwaith.

Y Briff

Rydym yn cynnig comisiwn o £2,000 i greu celf weledol newydd sy'n edrych ar arwyddocâd Corsydd Môn, eu hanes, a'ch profiad personol chi o'r safleoedd.

Bydd y gwaith celf yn cael ei gynnwys yn Arddangosfa Deithiol Genedlaethol Celfyddydau Anabledd Cymru 2026-7.

Mwy o wybodaeth am Effaith: Arddangosfa Deithiol Genedlaethol Celfyddydau Anabledd Cymru

Pwy all ymgeisio

Rydym yn croesawu cynigion gan:

● Artistiaid sy'n ystyried eu hunain yn anabl, yn f/Fyddar a/neu'n niwrowahanol

● Artistiaid sydd wedi'u lleoli yng Nghymru

● Artist unigol neu artistiaid yn gweithio'n gydweithredol

● Artistiaid sy'n gweithio ar unrhyw ffurf ar gelfyddyd weledol, gan gynnwys y canlynol, ond nid y rhain yn unig:

○ Paentio

○ Delweddau symudol

○ Cyfryngau digidol

○ Cerflunwaith

○ Gosodwaith

○ Ffotograffiaeth

○ Sain

○ Arferion rhyngddisgyblaethol

Rydym yn annog ceisiadau'n arbennig gan artistiaid o gefndiroedd sy’n cael eu diffinio ar sail hil, cymunedau LHDTCRhA+, ac eraill sy'n wynebu rhwystrau rhag mynediad a gwelededd yn y celfyddydau.

Rhaid i chi fod yn aelod o Gelfyddydau Anabledd Cymru i wneud cais.

Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim i bob person sy’n ystyried ei hun yn anabl yng Nghymru.

Ymunwch yma: Aelodaeth | DAC

Sut mae gwneud cais

Cyflwynwch y canlynol:

1. Cynnig (dim mwy na 300 gair) yn amlinellu:

○ Eich syniad ar gyfer y comisiwn

○ Sut mae'n ymateb i'r thema

○ Pa ddeunyddiau neu gyfryngau rydych chi'n bwriadu eu defnyddio

2. Hyd at 5 delwedd neu ffeil cyfryngau yn dangos enghreifftiau o'ch gwaith blaenorol

3. Bywgraffiad byr o’r artist (dim mwy na 200 gair)

4. Eich manylion cyswllt ac unrhyw ddolenni perthnasol (gwefan neu gyfryngau cymdeithasol)

5. Eich dogfen gofynion mynediad, neu nodyn byr am y ffordd orau o'ch cefnogi chi


Cyflwynwch eich cais yma: https://dacymru.fillout.com/2025exhibition

Dyddiad cau: 12 hanner dydd, dydd Iau 29 Awst 2025

Gallwch wneud cais ar ffurf ysgrifenedig, sain neu fideo.

Os oes angen i chi wneud cais mewn ffordd arall, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at post@disabilityarts.cymru

Diolch yn fawr iawn i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (@HeritageFundUK) a'r chwaraewyr am wneud hyn yn bosibl.
 

Dyddiad cau: 29/08/2025