Mae Archif Ddarlledu Cymru yn dod â deunydd ynghyd o gasgliadau BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, S4C ac Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Hon yw archif gyntaf o'i math yn y DU, ac mae'n olrhain bron i ganrif o ddarlledu. Trwy gadw, catalogio, a digido’r deunydd hwn a’u cyflwyno ar wefan y gellir ei chwilio’n llawn mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archif Ddarlledu Cymru wedi ymrwymo i wneud y casgliad hynod hwn yn hygyrch i bawb.

Fel rhan o’r prosiect hwn mae gwefan arloesol Clip Cymru wedi’i chreu i roi cartref i gasgliad amrywiol o 1,500 o glipiau o’r archif, wedi’u curadu ac ar gael i unrhyw un eu gweld ar-lein gartref. Bydd gweddill y casgliad ar gael trwy gyfres o Gorneli Clip a fydd yn cael eu sefydlu ledled Cymru mewn mannau cyhoeddus a chymunedol. Ar hyn o bryd mae dau Gornel Clip yng Ngogledd Cymru: Llyfrgell Glasdir yn Llanrwst, a Chanolfan Ddiwylliant Conwy.

Mae dau Gornel Clip hefyd ar waith yn Ne Cymru yn Llyfrgell Caerfyrddin ac Archifdy Gorllewin Morgannwg, Abertawe. Bydd mwy o Gorneli Clip yn agor ledled Cymru yn y misoedd nesaf. Bydd sefydlu'r Corneli Clip hyn yn sicrhau bod cymunedau y tu hwnt i Aberystwyth yn gallu gweld yr archif yn eu hardal leol, a byddant yn ganolbwynt ar gyfer gwaith gwirfoddol a digwyddiadau sy’n ymwneud â’r archif..

Mae’r archif wedi’i hariannu gyda chyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, a’r Llyfrgell Genedlaethol.

Comisiwn

Fel rhan o raglen ymgysylltu Archif Darlledu Cymru, hoffem gomisiynu dau artist o ardaloedd Llanrwst a Chonwy i greu un darn o waith celf gwreiddiol yr un yn ymateb i ddeunydd o’r archif.

Bydd yr artistiaid a ddewisir yn derbyn comisiwn o £2000 i archwilio’r archif yn eu Cornel Clip lleol, gyda chefnogaeth aelod o dîm Archif Ddarlledu Cymru, a dod o hyd i eitemau o’r casgliad sy’n berthnasol i’w hardal leol sy’n ysbrydoli ac yn llywio gwaith celf gwreiddiol. Mae'r comisiwn o £2000 yn cwmpasu £250 y dydd am 8 diwrnod wedi'i wasgaru fel y gwêl yr artist orau.

Mae’r amserlen ar gyfer creu’r gwaith celf yn hyblyg, a bydd yr artistiaid yn cael mynediad at gefnogaeth gan dîm Archif Ddarlledu Cymru drwyddi draw. Disgwyliwn i'r gwaith gael ei gwblhau o fewn tri mis i’w ddyfarnu.

Gall fod yn unrhyw fath o gelfyddyd - o gelf weledol i ddigidol, barddoniaeth i berfformio, cerameg i decstilau.

Ein bwriad yw arddangos y gwaith celf yn lleol os yn bosibl, a gobeithio dod â’r gweithiau celf o’r Corneli Clip i gyd at ei gilydd ar ddiwedd y prosiect.

Sut i wneud cais

Bydd angen i artistiaid gyflwyno cynnig heb fod yn fwy na dwy ochr A4 yn arddangos eu gwaith blaenorol ac yn amlygu peth o'r hanes lleol sydd o ddiddordeb iddynt. Rydyn ni’n ymwybodol na fydd artistiaid yn gwybod eto beth fyddan nhw’n ei ddarganfod yn yr archif, felly dylai’r cynnig roi ciplun o’u hymarfer a syniad o ba fath o hanes lleol sy’n eu hysbrydoli.

Bydd yr artistiaid a gomisiynir yn cael eu dewis gan banel o wirfoddolwyr lleol sy’n gysylltiedig ag Archif Ddarlledu Cymru sydd wedi’u lleoli yn y Corneli Clip yn Llyfrgell Glasdir, Llanrwst a Chanolfan Ddiwylliant Conwy.

Amserlen

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion: Hanner dydd, Mai 3ydd 2024

Dyddiad Penderfynu: Mai 24ain 2024

Cyflwyno'r prosiect: Awst 30ain 2024

I gyflwyno eich cynnig, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y comisiwn, anfonwch e-bost at: ffion.morris@llyfrgell.cymru

 

Dyddiad cau: 03/05/2024