Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg
Teitl y Rôl: Clerc Cyfriflyfr Gwerthiant a Phryniant
Cyflog: £21,840 - £24,201
Oriau Gwaith: 35 awr yr wythnos
Math o Gytundeb: Parhaol
Dyddiad Cau: 07/11/2024
Dyddiad Cyfweld: [I’w Gadarnhau]
Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd a chomedi i ddawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio yn niwylliant Cymru. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Amdanom ni/Ein Hadran:
Mae'r tîm Cyllid yn arwain ar faterion yn ymwneud â risg a chyllid yn CMC. Rydym yn datblygu prosesau a gweithdrefnau sy'n galluogi CMC i weithredu'n effeithiol ac yn effeithlon, tra'n lleihau risg. Nod y tîm Cyllid yw darparu gwasanaeth gwerth am arian trwy gynhyrchu gwybodaeth ariannol gywir ac amserol a phartneru busnes cyllid effeithiol.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:
Mae rôl y Clerc Cyfriflyfr Gwerthiant a Phryniant yn hanfodol i rediad esmwyth yr Adran Gyllid. Mae rôl yr adran hon yn hynod bwysig gan ei bod yn darparu cymorth busnes i CMC yn ei chyfanrwydd, o’r adrannau Theatr a Rhaglennu Artistig i’r timau Diogelwch a Gweithrediadau Lleoliad. Byddwch yn gyfrifol am dasgau trafodiadol o fewn y tîm cyllid, gan gynnwys:
·Sicrhau bod anfonebau pryniant, treuliau cyflogeion a thrafodion cardiau debyd cyflogeion yn cael eu postio i'r system gyllid mewn modd amserol.
·Sefydlu cyflenwyr newydd ar y system gyllid, cynnal y rhestr o gyflenwyr a ffefrir a chyfathrebu â staff pan fydd angen adnewyddu.
·Codi taliadau BACS ad hoc wrth iddynt godi.
·Prosesu anfonebau gwerthiant yn ôl yr angen, gan gynnwys anfonebu partneriaid yn rheolaidd.
Bydd dyletswyddau eraill yn cynnwys:
·Perfformio rheolaeth credyd, dadansoddi dyledwyr drwg a mynd ar drywydd dyledion yn ôl yr angen.
·Cefnogi'r Cyfrifydd Ariannol i gynnal a gwella systemau a phrosesau.
·Cefnogi'r tîm ar ddiwedd y mis a diwedd y flwyddyn.
·Cyflenwi ar gyfer rolau cyllid eraill pan fo angen ac os yn briodol.
Bydd eich rôl yn amodol ar wiriad DBS.
Gofynion Allweddol:
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar gymhwyster AAT (ystyrir rhai sy’n rhannol gymwys) neu'n gymwys yn ôl profiad. Mae angen sgiliau cyfathrebu da i gysylltu â gweddill y tîm cyllid ac aelodau staff eraill y sefydliad ehangach. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gyfforddus wrth ddefnyddio Microsoft Office, yn enwedig Excel, a bydd ganddynt brofiad o ddefnyddio meddalwedd ariannol.
Beth Sydd Ynddo i Chi?
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos waith 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser.
- Cynllun pensiwn sydd yn uwch na’r statudol
- Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
- Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
- Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
- Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
- Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
- Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
- CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
- NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
- Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio
- Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi gweithio hyblyg gydag amseroedd dechrau a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol (ac anghenion gweithredol).
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.
Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.