Dathliad bywiog o gerddoriaeth, celfyddydau gweledol a pherfformio a gynhelir dros ddeuddydd yw Penwythnos Celfyddydau Abertawe. Bydd y digwyddiad, a gynhelir ar 11 ac 12 Hydref, yn cynnwys cymysgedd deinamig o raglenni sy'n addas i oedolion a theuluoedd, gan gynnwys arddangosfeydd, perfformiadau, profiadau rhyngweithiol, gweithdai a gweithgareddau creadigol mewn orielau, mannau ar gyfer digwyddiadau a lleoliadau adloniant.
Rydym yn gwahodd perfformwyr i arddangos eu gwaith fel rhan o'r penwythnos cyffrous hwn. Os oes gennych ddarn sy'n bodoli eisoes neu syniad yr hoffech iddo ddod yn fyw, rydym am glywed gennych chi. Rydym yn arbennig o awyddus i dynnu sylw at dirwedd ddiwylliannol gyfoethog ac amrywiol Abertawe a'r ardaloedd cyfagos, ond rydym hefyd yn croesawu ceisiadau o bob cwr o Gymru a'r DU.
Rydym yn chwilio am artistiaid sy'n gweithio yn y meysydd canlynol:
- Perfformiadau theatr
- Celfyddydau awyr agored, gan gynnwys y syrcas a pherfformwyr sy'n cerdded o gwmpas y lle
- Perfformiadau ac ymyriadau dawns
- Adrodd straeon, barddoniaeth a gair llafar
- Celfyddyd Weledol
- Celfyddydau Byw
- Gweithdai Creadigol
Cyfle am dâl yw hwn, ac mae ffioedd yn amrywio o £250 i £10,000 yn dibynnu ar raddfa a natur y gwaith.
I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen hon.
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: Dydd Llun 11 Awst am 17:00.
Ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU