Mae Cyngor Sir Penfro yn chwilio am arbenigwyr ymgysylltu cymunedol creadigol i weithio’n agos gyda rhanddeiliaid a grwpiau cymunedol yn Hwlffordd, Sir Benfro i archwilio arwyddocâd Sgwâr y Castell cyn ei ailddatblygu yn 2024-25.

Mae Sgwâr y Castell yn hanesyddol arwyddocaol, gan mai hwn yw’r olaf o bedwar sgwâr a oedd unwaith yn diffinio canol y dref. Bydd y prosiect yn adfywio'r sgwâr tra'n cadw ei swyddogaeth bwysig fel safle ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau lleol.

Y sgwâr yw’r porth i’r brif fynedfa i gerddwyr i Gastell Hwlffordd a bydd y prosiect hefyd yn creu gwelliannau gweledol a gwelliannau i’r mynediad i Castle Back a llwybrau cerddwyr eraill i’r castell o faes parcio Llyn y Castell.

Bydd disgwyl i’r arbenigwyr ymgysylltu ddatblygu cyfres o sesiynau creadigol a hwyliog lle bydd cyfranogwyr yn cael y cyfle i rannu eu gwybodaeth, eu profiad a’u barn am y sgwâr ac yn y modd hwn gyfrannu at weledigaeth newydd ar gyfer y safle allweddol hwn.

Yn ogystal â sesiynau creadigol, bydd disgwyl i’r arbenigwyr ymgysylltu gasglu data arsylwadol ac ystadegol ynglŷn â sut a phryd mae pobl yn ymweld â’r sgwâr i lunio proffil manwl o’r lle. 

Bydd tîm dylunio yn cael ei benodi yn gynnar yn 2024 a disgwylir i'r tîm ymgysylltu weithio'n agos gyda nhw i sicrhau bod ganddynt ddata cywir a mewnbwn ansoddol i ddatblygu dyluniad sy'n taro deuddeg gyda'r gymuned.

Bydd y sesiynau ymgysylltu yn cael eu cynnal rhwng Ionawr ac Ebrill 2024. Bydd angen dosbarthu allbynnau i'r cyhoedd, wedi'u cynllunio a'u darparu gan arbenigwyr ymgysylltu, rhwng Mai a Mehefin. Bydd angen adroddiad manwl terfynol â darluniau erbyn Mehefin 2024

Gwahoddir dyfynbrisiau rhwng £20,000 a £25,000. Bydd dyfynbrisiau dros £25,000 yn cael eu gwrthod. Dyddiad cau Dydd Mercher 20 Rhagfyr 2023

Cysylltwch â Ruth Jones Ruth.Jones@pembrokeshire.gov.uk i ofyn am friff manwl ar gyfer yr arbenigwr ymgysylltu neu i drafod y contract hwn ymhellach.

Dyddiad cau: 20/12/2023