Mae cyhoeddiad wedi datgelu bod Chapter yn un o’r pum amgueddfa sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Amgueddfa’r Flwyddyn Art Fund 2025, sef y wobr fwyaf yn y byd i amgueddfeydd. 

Bob blwyddyn mae Art Fund, yr elusen genedlaethol ar gyfer amgueddfeydd ac orielau, yn llunio rhestr fer o bum amgueddfa ragorol ar gyfer Amgueddfa’r Flwyddyn. Mae gwobr 2025 yn cydnabod prosiectau a gweithgarwch ysbrydoledig rhwng hydref 2023 a gaeaf 2024. Yn ogystal ag edrych ar lwyddiannau cyffredinol y sefydliad, mae’r beirniaid yn cael y dasg o nodi prosiectau effeithiol sy’n taflu goleuni ar yr ystod eang o bobl nodedig, gan gynnwys staff a gwirfoddolwyr yr amgueddfeydd, sy’n dod ag amgueddfeydd yn fyw drwy ymgysylltu â chymunedau, teuluoedd ac ymwelwyr iau, artistiaid a phobl greadigol.  

“Rydyn ni wrth ein boddau o fod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr glodwiw yma, ac yn falch iawn o gael bod mewn cwmni mor dda!  Mae’r clod yma’n destament i’r llu o artistiaid, partneriaid, cydweithwyr creadigol, y staff a’r gwirfoddolwyr gwych sy’n cynnig eu hegni a’u dychymyg i’n lleoliad bob dydd. Rydyn ni’n falch o gynrychioli Cymru a’r cymunedau sydd wedi bod yn gefn i ni am y 54 mlynedd diwethaf.” Hannah Firth, Cyfarwyddwr Artistig a Chyd-gyfarwyddwr  

Chapter (Caerdydd) – yn un o ganolfannau celfyddydol blaenllaw Cymru, â’i gwreiddiau yng nghanol Caerdydd, mae Chapter yn cynnwys oriel, stiwdios artistiaid, theatrau, sinemâu, caffi bar a gardd gymunedol. Mae eu hymagwedd yn rhoi’r gymuned yn ganolog i raglenni sy’n blaenoriaethu tegwch cymdeithasol a diwylliannol, cysylltiad, a phwrpas a rennir. 

Yr amgueddfeydd eraill sydd ar y rhestr fer yw Beamish, The Living Museum of the North (Swydd Durham); Compton Verney (Swydd Warwick); Oriel Golden Thread (Belffast) ac Amgueddfa Perth (Perth). 

Bydd yr amgueddfa fuddugol, a fydd yn derbyn £120,000, yn cael ei chyhoeddi ar 26 Mehefin mewn seremoni yn Amgueddfa Lerpwl, a dyma fydd y tro cyntaf i’r digwyddiad gael ei gynnal y tu allan i Lundain. Bydd £15,000 yn cael ei roi i’r pedair amgueddfa arall yn y rownd derfynol – gyda chyfanswm y gwobrau’n dod i £180,000.    

Ar banel beirniadu 2025, dan gadeiryddiaeth cyfarwyddwr Art Fund, Jenny Waldman, mae: Rana Begum (Artist), Dr David Dibosa (Cyfarwyddwr Ymchwil a  Dehongli, Tate), Jane Richardson (Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru) a Phil Wang (Digrifwr, Awdur, Actor). Bydd y beirniaid yn ymweld â phob amgueddfa sydd yn y rownd derfynol i lywio eu penderfyniad, tra bydd pob amgueddfa yn gwneud y mwyaf o fod ar y rhestr fer drwy’r haf gyda digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer eu hymwelwyr newydd ac arferol. 

Ariennir y wobr diolch i haelioni aelodau Art Fund sy’n prynu Tocyn Celf Cenedlaethol. Gall deiliaid Tocyn Celf Art Fund gael tocynnau am £5 i ddigwyddiadau yn sinema neu theatr Chapter rhwng 29 Ebrill a 26 Mehefin 2025, gyda 10% i ffwrdd yn y caffi drwy’r flwyddyn gron. 

___

Rhaglen Oriel Chapter sydd ar ddod: 

Eimear Walshe: MIXED MESSAGES FROM THE IRISH REPUBLIC 
1 Mawrth — 25 Mai. Am ddim.  

Drwy fideo a cherflunwaith, mae MIXED MESSAGES FROM THE IRISH REPUBLIC yn archwilio cariad a galar am wlad sydd wedi’i chlymu mewn gwaddol trefedigaethol, chwyldro a gwrthryfel, ac addewid heb ei wireddu. 

Steve McQueen: Grenfell 
10 Mai — 15 Mehefin. Am ddim. 

Fe’i gwnaed mewn ymateb i’r tân yn Nhŵr Grenfell yng Ngogledd Kensington, Gorllewin Llundain yn 2017 — trychineb lle bu 72 o bobl farw. Er mwyn creu cofnod parhaus, ffilmiodd McQueen y tŵr cyn iddo gael ei orchuddio. 

Feeding Chair 
29 Mai — 3 Awst. Am ddim. 

Gwaith celf cydweithredol teithiol yw Feeding Chair (2022), sy’n gwahodd rhieni a gofalwyr i fwydo’u plant mewn lleoliadau cyhoeddus. Mae’r gadair yn cynnwys gwaith celf gan Jade de Montserrat, ac mae hefyd yn integreiddio gwaith sain a fideo gan artistiaid ac ymgyrchwyr am fwydo babanod, rhywedd, a mannau cyhoeddus.   

THE HERDS 
30 Mai. Am ddim. 

Ymunwch â ni mewn diwrnod o ddysgu a gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd a chyfiawnder amlrywogaeth. Gwahoddir teuluoedd i fod yn greadigol gyda’i gilydd i greu pypedau a cherfluniau o greaduriaid sydd oll mewn perygl yng Nghymru. Bydd hefyd cyfle i ychwanegu eich geiriau chi i gân ymgyrch cadwraeth.