Ar Ddydd Gwener 3 Rhagfyr 2021, mi fydd Celfyddydau Anabledd Cymru yn cynnal digwyddiad er mwyn lansio 'Dewch â'n Hawliau Creadigol: Maniffesto Diwylliannol a Rhyngwladol Pobl Anabl.' Mi fydd y maniffesto yn archwilio Erthygl 30 a 32 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Pobl Anabl (UNCRPD).
Mae'r UNCRPD yn 'ailddatgan bod rhaid i bawb sydd â phob math o anableddau fwynhau'r holl hawliau dynol a rhyddid sylfaenol' ac 'egluro a chymhwyso pob categori o hawliau pobl ag anableddau, a nodi lle mae'n rhaid gwneud addasiadau i bobl ag anableddau er mwyn gallu ymarfer eu hawliau yn effeithiol, a lle mae eu hawliau wedi'u torri, a lle mae'n rhaid atgyfnerthu amddiffyniad eu hawliau' - un.org. Mae erthyglau 30 a 32 yn ffocysu ar gyfranogiad mewn bywyd diwylliannol, hamdden a chwaraeon, a chydweithrediad rhyngwladol.
Mae'r maniffesto yn dilyn cyfres o grwpiau ffocws ac arolwg a gofynnodd i bobl anabl/byddar am eu profiadau a theimladau o gwmpas mynediad i ddiwylliant a chydweithrediad rhyngwladol yng Nghymru. Dilyniant i maniffesto 'Dewch â'n Hawliau: Maniffesto Pobl Anabl' Anabledd Cymru, a chafodd ei gyhoeddi ar 3 Rhagfyr 2020, yw hwn. Bu'r maniffesto'n tanlinelli bwyntiau allweddol er mwyn symud cydraddoldeb i bobl anabl ymlaen, a chynnig datrysiadau trwy bolisi.
Yn ystod y digwyddiad ar Ddydd Gwener 3 Rhagfyr 2021, mi fydd yr artist sain amgylcheddol gyda nam ar ei chliw Cheryl Beer, a'r artist, actor, cyfarwyddwr, ac awdur anabl Chris Tally Evans yn rhannu eu hadlewyrchiadau creadigol i'r erthyglau, wedi'i gomisiynu gan Gelfyddydau Anabledd Cymru.
Cefnogwyd yr ymchwil, maniffesto, a digwyddiad gan Anabledd Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Chelfyddydau Rhynwgladol Cymru.
Mi fydd darn comisiwn Cheryl Beer hefyd yn rhan o ymgyrch #PethauBychain Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ar 3 Rhagfyr. #PethauBychain yw'r ymgyrch sy'n rhoi platform byd-eang i negeseuon llesiant y sector diwylliannol. Mae'n gofyn i ni wneud y pethau bychain er mwyn gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau ar draws Cymru, er budd ein planed, a'n llesiant ein hun, a chenedlaethau'r dyfodol.