Mae ceisiadau ar gyfer y rhaglen Hadu’r Dyfodol bellach ar agor.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:
5pm, Dydd Mercher, 8 Mehefin 2022


Ochr yn ochr ag agoriad ceisiadau rhaglen Hadu’r Dyfodol, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn falch o rannu’r 3 derbynnydd o Gronfa Cymru yng Nghaeredin 2022, a fydd yn cymryd rhan yn y fenter arddangos wedi’i churadu - Cymru yng Nghaeredin - yn yr ŵyl ymylol ym mis Awst eleni.

Y derbynwyr hynny a'u harddangosfeydd priodol yw:
Dirty Protest - Double Drop
Jo Fong & George Orange - The Rest of Our Lives
Common Wealth - Payday Party

Yn ogystal â sioe arddangos Cymru yng Nghaeredin, mae rhaglen Hadu’r Dyfodol yn rhoi’r cyfle i'n hartistiaid sy'n datblygu gwaith a heb fynd i’r Ŵyl Ymylol i gyflawni gwaith i’w harddangos yno yn y dyfodol.

Mae gan Gymru gynnyrch artistig o safon ac mae ei apêl yn fyd-eang. Mae llais unigolion yn bwysig inni. Rydym am gadw amrywiaeth a chydraddoldeb wrth wraidd ein gwaith. Rydym hefyd yn ymrwymedig i ragoriaeth a chelfyddyd ddewr a phryfoclyd.

Pwy all ymgeisio?

Arian cyfyngedig sydd gan y rhaglen i gefnogi grŵp o artistiaid i ymuno â ni yn ystod yr wythnos arddangos, 22–26 Awst 2022. Rhaid ichi fod ar gael am y cyfnod. Bydd gweithdy cyn yr ŵyl yn cymryd lle diwedd Gorffennaf 2022.

Cwmnïau cynhyrchu a gweithwyr creadigol. Rhaid ichi allu profi bod eich cwmni’n  gweithio neu'ch ymarfer yn digwydd yng Nghymru neu eich bod wedi gwneud gwaith helaeth yma.

Rhaid bod gennych:

  1. Hanes o lwyddo i gynnal gweithgarwch celfyddydol i gynulleidfaoedd neu gyfranogwyr
  2. Polisi Cyfle Cyfartal sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth ac sydd wedi’i adolygu gan eich corff llywodraethu yn y tair blynedd diwethaf. Os ydych yn weithiwr creadigol, rhaid dangos bod gennych ddealltwriaeth dda o Gyfle Cyfartal a'ch bod yn cynnwys cydraddoldeb ac amrywiaeth yn eich ymarfer
  3. Cyfrif banc yn enw eich sefydliad y mae’n rhaid i o leiaf ddau berson awdurdodi ei drafodion. Os ydych yn weithiwr creadigol, cyfrif banc yn eich enw cyfreithiol. Am ragor o wybodaeth am gyfrifon banc i sefydliadau cliciwch yma ac am gyfrifon i unigolion cliciwch yma
  4. Os ydych yn ymarferydd creadigol, rhaid ichi fod dros 18 oed ac yn byw yng Nghymru neu wedi gweithio'n helaeth yma

I gael cyngor am ddatblygu eich cynnig, cysylltwch â maggie.dunning@celf.cymru.

Os cewch anawsterau gyda'r ffurflen gais neu’r porth, cysylltwch â'n tîm Grantiau a Gwybodaeth: grantiau@celf.cymru.

Gŵyl Ymylol Caeredin yw’r ŵyl gelfyddydol fwyaf yn y byd. Mae Cymru yng Nghaeredin yn arddangosfa sy'n hyrwyddo ein cynnyrch gorau o fyd y theatr, dawns a syrcas.