Bydd cyfarwyddwr canolfan gelfyddydol yng ngogledd Cymru yn camu lawr mewn steil gyda'i arddangosfa olaf fydd yn cynnwys gwaith gan yr artist byd-enwog David Nash.
Yr arddangosfa yng Nghanolfan Grefft Rhuthun fydd yr un olaf a drefnir gan Philip Hughes, 66 oed, a fydd yn ymddeol ddiwedd mis Medi ar ôl 33 mlynedd yn ei swydd.
Mae Philip a'i dîm wedi dod ag arddangosfeydd arloesol i Ruthun, wedi rhoi cyfle cyntaf i gannoedd o artistiaid newydd ddangos eu gwaith, ac wedi denu gwerth miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad i ddiwydiant celf a chrefft y rhanbarth trwy arian grant.
O dan ei arweiniad goruchwyliodd Philip ailddatblygu'r ganolfan gwerth £4.3 miliwn, sydd bellach yn cael ei ystyried yn un o leoliadau mwyaf rhagorol Prydain ar gyfer y celfyddydau cymhwysol.
Dywedodd Philip, a dderbyniodd MBE yn 2016 fel cydnabyddiaeth o’i wasanaeth i gelf a chrefft, ei fod wrth ei fodd y bydd ei arddangosfa olaf yn cynnwys gwaith David Nash.
Mae David Nash, sydd wedi'i leoli ym Mlaenau Ffestiniog, wedi dod i amlygrwydd rhyngwladol am ei waith gyda phren, coed a'r amgylchedd naturiol, ac mae’n aelod o Academi Frenhinol y Celfyddydau gan arddangos mewn arddangosfeydd mawr ledled y byd.
Dywedodd Philip y bydd yr arddangosfa, sy'n agor ar Fedi 27 ac yn rhedeg tan Ionawr 11, yn ffordd berffaith o orffen ei gyfnod wrth y llyw yn y ganolfan grefft.
Bydd yr arddangosfa yn cael ei hagor yn swyddogol gan Dr James Fox, sy'n ymddangos yn rheolaidd ar y teledu yn cyflwyno rhaglenni celfyddydol.
Dywedodd Philip: "Ein bwriad yn yr arddangosfa, yw dangos cerfluniau David, ei brintiau a’i weithiau ar bapur, yn ogystal â gosod rhai o’i gerfluniau yn yr iard.
"Mae'n debyg mai David yw'r artist cyfoes pwysicaf yng Nghymru.
"Mae'r curadur Gregory Parsons yn gweithio gyda David i guradu'r arddangosfa.
"Mae'n arddangosfa wych i mi gamu lawr ar ei hôl ac i'r cyfarwyddwr newydd Samantha Rhodes ddod i mewn."
Yn ôl David Nash, roedd yn anrhydedd mai ei arddangosfa ef fyddai un olaf Philip yn y ganolfan.
Dywedodd yr artist, a enillodd OBE yn 2004: "Yr hyn sydd wedi bod yn wych am Philip yw ei fod wedi datblygu Rhuthun i fod yn un o orielau crefft mwyaf blaenllaw Prydain, nid oes unrhyw le yn cymharu.
"Mae safon a hygrededd Canolfan Grefft Rhuthun wedi cael eu cynnal a'u datblygu ac mae hynny'n beth digon prin heddiw.
"Mae Philip wir yn deall yr elfen o greu mewn gwaith celf, nid dim ond y gorffeniad, ac mae wedi bod mor drylwyr a chyson ar hyd yr adeg.
"Rwyf bob amser wedi ystyried y ganolfan fel lle arbennig iawn."
Dywedodd Mr Nash y byddai'r arddangosfa yn cynnwys mwy na 100 o'i weithiau.
Meddai: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr arddangosfa, mae'n bleser gweithio gyda’r ganolfan grefft ac rwyf wedi cael profiadau da iawn yno."
Dechreuodd Philip weithio yn y ganolfan yn haf 1991 a daeth yn gyfarwyddwr ym mis Rhagfyr 1992.
Dywedodd ei fod yn falch o'r ffordd y llwyddodd ef a'r cyn-ddirprwy gyfarwyddwr Jane Gerrard i arwain trawsnewidiad y ganolfan. Dywedodd: "Yn gynnar yn y 2000au fe wnaethon ni ddechrau'r prosiect ailddatblygu oherwydd nad oedd yr adeilad, er nad oedd yn hen adeilad, yn adeilad da iawn.
"Cawsom yr arian i ailadeiladu ac agorodd yr adeilad newydd ym mis Gorffennaf 2008.
"Roedd agor yr adeilad newydd yn sicr yn uchafbwynt.
"Roedd cyfraniad fy nghydweithiwr Jane Gerrard, a oedd yn ddirprwy gyfarwyddwr tan flwyddyn yn ôl pan ymddeolodd, yn hollbwysig.
"Fe wnaethon ni lwyddo yn ein hymdrechion ac mae wedi bod yn llwyddiannus ers hynny - ond fyddwn i ddim eisiau gwneud y cyfan i gyd eto!"
Dywedodd Philip fod derbyn MBE yn glod i ymdrechion tîm y ganolfan.
Dywedodd: "Roedd yr MBE mewn gwirionedd yn anrhydedd i’r holl dîm a fu’n gweithio yno, oherwydd dydych chi ddim yn ei wneud ar eich pen eich hun.
"O feddwl am yr hyn wnaethon ni ei gymryd drosodd i'r hyn sydd gennym heddiw, mae'r ganolfan yn hollol wahanol, does dim cymhariaeth rhwng y naill a'r llall.
"Roedd yn ofod arddangos bach lle gwnaethon ni bethau da; fe wnaethon ni fynd ag arddangosfeydd ar daith ac wrth iddyn nhw arddangos mewn lleoliadau mwy fe wnaethon ni ehangu. Mae gennym bellach ein lle ein hunain i arddangos pob math o bethau."
Trwy weithio gyda chyrff cyllido grantiau, mae Philip a'i dîm wedi llwyddo i sicrhau gwerth miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad dros y blynyddoedd i ariannu artistiaid yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd: "Mae llawer o'r artistiaid rydyn ni'n arddangos eu gwaith wedi cael grantiau gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac enghraifft ddiweddar o hynny yw Verity Pulford, o Eryrys, a enillodd y fedal aur am grefft a dylunio yn Eisteddfod Wrecsam eleni.
"Gobeithio ein bod wedi helpu i roi llawer o arian ym mhocedi artistiaid.
"Rydyn ni'n cefnogi artistiaid trwy weithio gyda nhw mewn sawl ffordd; trwy arddangosfeydd, ond hefyd maen nhw'n gallu treulio cyfnodau byr yma fel artistiaid preswyl, a gwneud gwaith addysgol ac ati.
"Dros y blynyddoedd rydyn ni wedi dangos gwaith llawer iawn o bobl sydd wedi cael eu harddangosfa gyntaf yma yn Rhuthun ac wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd yn y celfyddydau; rydyn ni'n arddangos gwaith llawer o bobl sydd newydd ddod allan o'r coleg er enghraifft.
"Ac yn y gorffennol rydyn ni hefyd wedi mynd â gwaith pobl dramor i’w arddangos, i lefydd fel Chicago a Barcelona."
Dywedodd Philip ei fod wedi mwynhau bod ar flaen y gad yn sîn gelf a chrefft y Deyrnas Unedig, gyda'r ganolfan yn Rhuthun yn aml y gyntaf i arddangos artistiaid blaenllaw o Gymru, y Deyrnas Unedig a rhyngwladol.
Mae'r artistiaid hynny yn cynnwys y dylunydd tecstilau dylanwadol Anni Albers tra bod gwaith gan yr artist cerameg enwog Ruth Duckworth hefyd wedi cael ei ddangos yn y ganolfan.
Dywedodd Philip: "Ni oedd y cyntaf i arddangos gwaith yr artist tecstilau Anni Albers er enghraifft, yna dilynodd Tate Modern ni gydag arddangosfa eu hunain wedyn.
"Yr arddangosfa arall a oedd yn hollbwysig iawn i ni oedd arddangosfa pen-blwydd Ruth Duckworth yn 90 oed, sef ei harddangosfa olaf. Roedd yn achlysur teimladwy gan ei bod hi a'i theulu wedi dod o hyd i loches yng Nghymru ar ôl ddianc o'r Natsïaid yn yr Almaen."
Dywedodd Philip fod y ddwy arddangosfa hynny yn arbennig yn bwysig i enw da rhyngwladol cynyddol y ganolfan grefft, ac wedi ei helpu i ddenu gwaith gan artistiaid blaenllaw eraill.