Partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru

Mewn cydweithrediad â phrosiect CELF Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru

Dyddiad cau: 12 hanner dydd, dydd Iau 29 Awst 2025

Hawdd i Ddeall ac IAP ar gael yma.

Trosolwg

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru ac Amgueddfa Cymru yn cynnig comisiwn gwerth £10,000 i artist anabl, b/Byddar neu niwrowahanol i greu gwaith celf newydd a fydd:

● Yn cael ei gynnwys yn arddangosfa deithiol genedlaethol fawr Celfyddydau Anabledd Cymru, Effaith / Impact,

● Efallai’n cael ei dderbyn i'w gynnwys yng Nghasgliad Cenedlaethol Cymru

Mae hwn yn gyfle arwyddocaol i gynhyrchu gwaith celfyddydau gweledol proffesiynol sy'n archwilio themâu cyfiawnder hinsawdd, tirwedd neu natur o safbwynt anabledd.

Y Comisiwn

Bydd yr artist dan sylw yn creu celf weledol newydd a fydd yn:

● Ymateb i'r thema Effaith - gan archwilio'r cydgysylltiad rhwng natur, hinsawdd a phrofiad pobl anabl

● Addas i'w arddangos mewn orielau cyhoeddus ac o bosibl i'w dderbyn gan gasgliad yr amgueddfa genedlaethol

● Gall fod yn greadigaeth gwbl newydd, neu'n ymateb i waith celf sy'n bodoli eisoes yn y Casgliad Cenedlaethol

Cefnogir y comisiwn hwn drwy CELF - menter Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru.

Beth rydym yn ei gynnig

Bydd yr artist llwyddiannus yn cael:

● Ffi o £10,000 - sy’n cynnwys costau amser yr artist, deunyddiau, cynhyrchu a mynediad

● Mentora a chefnogaeth guradurol gan Gelfyddydau Anabledd Cymru ac Amgueddfa Cymru

● Arddangos y gwaith gorffenedig yn yr arddangosfa deithiol, Effaith

● Ystyriaeth ar gyfer derbyn i Gasgliad Cenedlaethol Cymru

● Hyrwyddo a dogfennu'r comisiwn

Mwy o wybodaeth am Effaith: Arddangosfa Genedlaethol Celfyddydau Anabledd Cymru

Pwy all ymgeisio

Rydym yn croesawu cynigion gan:

● Artistiaid sy'n ystyried eu hunain yn anabl, yn f/Fyddar a/neu'n niwrowahanol

● Artistiaid sydd wedi'u lleoli yng Nghymru

● Artist unigol neu artistiaid yn gweithio'n gydweithredol

● Artistiaid sy'n gweithio ar unrhyw ffurf ar gelfyddyd weledol, gan gynnwys y canlynol, ond nid y rhain yn unig:

○ Paentio

○ Delweddau symudol

○ Cyfryngau digidol

○ Cerflunwaith

○ Gosodwaith

○ Ffotograffiaeth

○ Sain

○ Arferion rhyngddisgyblaethol

Rydym yn annog ceisiadau'n arbennig gan artistiaid o gefndiroedd sy’n cael eu diffinio ar sail hil, cymunedau LHDTCRhA+, ac eraill sy'n wynebu rhwystrau rhag mynediad a gwelededd yn y celfyddydau.

Rhaid i chi fod yn aelod o Gelfyddydau Anabledd Cymru i wneud cais.

Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim i bob person sy’n ystyried ei hun yn anabl yng Nghymru.

Ymunwch yma: Aelodaeth | DAC

Sut mae gwneud cais

Cyflwynwch y canlynol:

1. Cynnig (dim mwy na 300 gair) yn amlinellu:

○ Eich syniad ar gyfer y comisiwn

○ Sut mae'n ymateb i'r thema

○ Pa ddeunyddiau neu gyfryngau rydych chi'n bwriadu eu defnyddio

2. Hyd at 5 delwedd neu ffeil cyfryngau yn dangos enghreifftiau o'ch gwaith blaenorol

3. Bywgraffiad byr o’r artist (dim mwy na 200 gair)

4. Eich manylion cyswllt ac unrhyw ddolenni perthnasol (gwefan neu gyfryngau cymdeithasol)

5. Eich dogfen gofynion mynediad, neu nodyn byr am y ffordd orau o'ch cefnogi chi

Cyflwynwch eich cais i: https://dacymru.fillout.com/2025exhibition

Dyddiad cau: 12 hanner dydd, dydd Iau 29 Awst 2025

Gallwch wneud cais ar ffurf ysgrifenedig, sain neu fideo.

Os oes angen i chi wneud cais mewn ffordd arall, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at post@disabilityarts.cymru

Y Broses Ddethol

Bydd y ceisiadau'n cael eu hadolygu gan banel o gynrychiolwyr Celfyddydau Anabledd Cymru ac Amgueddfa Cymru.

Byddwn yn asesu cynigion ar sail:

● Gwreiddioldeb a pherthnasedd y syniad

● Ansawdd artistig ac eglurder o ran y weledigaeth

● Dichonoldeb o fewn y gyllideb benodedig

● Potensial y cyfle i gefnogi eich datblygiad artistig a'ch gyrfa

Amserlen

● Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Iau, 29 Awst 2025

● Dewis artist: Canol mis Medi 2025

Cwestiynau?

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch chi gyda’ch cais, anfonwch e-bost at post@disabilityarts.cymru

Edrychwn ymlaen at glywed eich syniadau.
 

Dyddiad cau: 29/08/2025