Lansiad: 03 Mis Hydref 2025, 18.00-21.00
Ar agor: 04/10/25 - 13/12/25
Arddangosfa a rhaglen o weithgareddau, ail-berfformiadau, ail-gyflwyniadau a chopïau o weithiau artistiaid fydd yn rhychwantu sawl cenhedlaeth. Mae enw’r sioe yn dwyn ysbrydoliaeth o arwydd a ymddangosodd ar ffens wedi'i dafarn leol, The Poets Corner, a safai ger Shelley Walk a Shakespeare Street, gael ei ddymchwel yn 2016 er mwyn gwneud lle ar gyfer ailddatblygiad.
Dros y ddegawd ddiwethaf mae g39 wedi bod yn pwyso a mesur y rhagdybiaethau sydd ynghlwm â’r ffyrdd yr ydym yn meddwl am ddatblygiad a llwyddiant. Mae Rebuild the Poets yn ystyried mai peth sgwiglog yw ‘cynnydd’, yn hytrach na llinell syth rhwng y gorffennol a’r presennol. Sgwigl na ellir ei ragweld; un sy’n cysylltu ar sawl pwynt gwahanol.
Mae delfryd masnachol sy’n ffetisheiddio newydd-deb dros gynnwys yn golygu fod pethau a ddylai dynnu ein sylw yn llithro heibio. Gan osgoi nostalgia, gobeithiwn ddod â rhai o’r gweithiau hyn i’r amlwg – er mwyn arafu’r broses o gynhyrchu, ac yn hytrach ailymweld ag artistiaid pwysig mewn cyfnodau arwyddocaol yn eu Hymarfer.
Llun: Domenico, Jeffrey Steele, 1967-68