Mae DARCH, sef arfer artistig cydweithredol Umulkhayr Mohamed a Radha Patel, wedi'i ddewis fel un o 30 o artistiaid i gymryd rhan yng Ngŵyl Eilflwydd Lerpwl 2025. Gan gynrychioli Cymru yn y digwyddiad rhyngwladol mawreddog hwn, bydd DARCH yn cyflwyno gwaith newydd - Heaven in the Ground - y bu disgwyl mawr amdano sy'n ymateb i thema'r Ŵyl Eilflwydd, "Creigwely"("Bedrock").
Wedi'i ffurfio yn 2023, mae DARCH yn arfer sydd wedi'i wreiddio mewn themâu galar hynafol, gwladychiaeth, dadleoli, ac effeithiau emosiynol trawma a bod yn dlawd. Mae DARCH wedi'i seilio ar ddod o hyd i ffyrdd creadigol o fynegi arferion sy'n canolbwyntio ar ofal ar gyfer pobl o liw, gyda gwleidyddiaeth wedi'i seilio ar undod a rhyddhad.
Comisiynwyd eu darn cyntaf o waith, 'Grief/Rage' Ritual, gan Arcade Campfa ym mis Mai 2024 fel rhan o breswyliad digidol. Mae'r ffilm, sydd ar gael i'w gwylio ar-lein, yn ymchwilio i wahanol ddefodau (rituals) diwylliannol ar gyfer prosesu a dilysu galar trefedigaethol/hynafiadol a ffyrnigrwydd rhyddhaol, cyn gwneud eu rhai eu hunain.
Mae gwaith y ddeuawd yn cyfuno elfennau o’u harferion unigol gan gynnwys celf weledol, sain, defodau, gosodiadau ac adrodd straeon i greu gofodau ymdrochol ar gyfer iachau a myfyrio. Mae eu cyfranogiad yng Ngŵyl Eilflwydd Lerpwl 2025 yn nodi adeg arwyddocaol yn eu gyrfaoedd newydd ac yn llwyfan i ddod â’u gwaith trawsnewidiol i gynulleidfa ryngwladol.
Mae’r ddau artist hefyd wedi derbyn cymorth gan Grant Camau Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru yn 2024 i ddatblygu eu harferion unigol. Ar gyfer Umulkhayr, mae'r grant hwn yn cael ei ddefnyddio i gwblhau nifer o weithiau sydd ar y gweill, gan gynnwys "Officer, Am I Too Far Gone?" —cyfres aml-gyfrwng a wnaed o dan eu moniker artistig, Aisha Ajnabi mewn cydweithrediad â’r hynafiaid, y ffotograffydd Kieran Cudlip, a’r cerflunydd Brian Denman.
Dewiswyd y gyfres ar gyfer Galwad Agored Ryngwladol Ffoto Cymru “Hanes, Etifeddiaeth a Dyfodol” (“Histories, Legacies & Futures”) ac mae’n cael ei harddangos ar hyn o bryd yn Oriel y Bont, Prifysgol De Cymru yn Nhrefforest, ochr yn ochr â gwaith Melissa Rodrigues, tan Ionawr 2025. Mae’r gyfres ffotograffig yn dogfennu perfformiad lle cerddodd Aisha Ajnabi ar hyd Heol Casnewydd yng Nghaerdydd, gan ail-greu moment hanesyddol o’r 1920au pan gafodd morwr o Somalia wybod gan heddwas na allai gerdded ar yr un llwybr.
Defnyddiodd Radha Patel ei Grant Camau Creadigol i ddatblygu dechreuadau ‘That's When We’ll Meet’ – drama teithio mewn amser yn cysylltu bywydau Cymry a oedd yn byw ar y tir sydd bellach yn Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ag Indiaid yn ystod cyfnod adeiladu’r 'Gwrych Mawreddog' (‘The Great Hedge’).
Mae'n stori am gyfeillgarwch, mytholeg, defod a gwladychu planhigion, pobl a halen sy'n archwilio rôl Cwmni Dwyrain India yn sefydlu Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Byddai adeiladu llawer o’r adeiladau hyn a neilltuo’r tir y mae’r gerddi bellach yn eistedd arno wedi cyd-daro â’r Deddfau Ystadau, gan wthio allan lawer o deuluoedd ffermio Cymreig a oedd â chysylltiadau dwfn â’r tir a’r cyffiniau.
Cynhelir Gŵyl Eilflwydd Lerpwl 2025 rhwng 7 Mehefin 2025 a 14 Medi 2025, a bydd yn cynnwys comisiynau, perfformiadau a gosodiadau newydd gan 30 o artistiaid rhyngwladol. Mae'r rhestr lawn o artistiaid i'w gweld yma.