Rydyn ni wrth ein bodd yn cyhoeddi mai Rhys Slade Jones sydd wedi derbyn Bwrsariaeth Perfformio Mike Pearson a nhw fydd yr Artist Preswyl nesaf yn Chapter o fis Mai i fis Hydref 2025.
Sefydlwyd Bwrsariaeth Perfformio Mike Pearson er cof am Mike Pearson (1949-2022) – artist theatr, damcaniaethwr ac athro clodwiw, ac arloeswr ym maes perfformio safle-benodol, a ddisgrifiwyd fel “un o’r ffigurau mwyaf dylanwadol yn theatr Cymru yn yr hanner canrif diwethaf” (Nation Cymru).
I anrhydeddu ymrwymiad allweddol Mike Pearson i’r byd perfformio yng Nghymru, rydyn ni’n falch o allu cynnig y fwrsariaeth yma a fydd yn cynnal gwaddol Mike drwy gefnogi datblygiad gyrfa artist sy’n gweithio ym maes perfformio yng Nghymru. Gwnaed y fwrsariaeth yn bosib drwy haelioni cyfeillion, teulu a chydweithwyr Mike.
Artist rhyngddisgyblaethol o Dreherbert yw Rhys Slade Jones, sy'n byw ac yn gweithio yn y de-ddwyrain. Drwy droedio’r llinell rhwng y cyfeillgar a'r heriol, mae Rhys yn creu gwaith gwleidyddol sy'n pontio bydoedd perfformio, cabare a chrefft. Mae eu gwaith yn fyfyrdod ar ecolegau cwiar, egni diderfyn rêfs cwiar a natur wleidyddol gynhenid llawenydd, sydd i gyd yn cael eu cymhlethu gan ymwybyddiaeth o drychineb amgylcheddol a galar ar y cyd.
Ar hyn o bryd, mae Rhys yn Artist mewn Gwasanaeth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, cafodd Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol yn 2022 gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, ac mae'n aelod sefydlu o'r gasgleb berfformio cwiar CWM RAG.