Mae'r farchnad codi arian yn lle dyrys ac nid yw’r pandemig wedi helpu dim.

Gyda'r Ganolfan Reolaeth rydym ni’n falch o gynnig 2 fwrsariaeth i godwyr arian yng Nghymru i fynd i’w Hysgol Codi Arian Celfyddydol ar-lein ym Mai a Mehefin. Mae'r ysgol enwog yn archwilio sawl strategaeth a thacteg i godi arian oddi wrth ymddiriedolaethau, sefydliadau, busnesau ac unigolion – a llawer rhagor.

https://www.nationalartsfundraisingschool.com/how-we-help/online-programme/

Rhaid ichi fynd i bob dyddiad:

Llun 17 a Mawrth 18 Mai

Llun 24 a Mawrth 25 Mai

Mawrth 1 ac Iau 3 Mehefin

Llun 7 a Mawrth 8 Mehefin

Oherwydd y pandemig, eleni bydd yr ysgol ar-lein ac felly byddwn ni hefyd yn talu costau llawn y lleoliadau (£1,200 a TAW).

Rhaid i'r unigolyn sy’n mynd wneud y cais. Mae'n agored i godwyr arian cyflogedig a gweithwyr llawrydd. Rydym ni’n targedu’r rhai na allent fynd fel arall.

Rhaid bodloni'r meini prawf:

  • bod yn gweithio yng Nghymru a bod ynghlwm wrth godi arian proffesiynol i’r celfyddydau
  • heb fynd i’r ysgol o'r blaen
  • ymrwymo i fynd i bob dyddiad
  • os ydych chi’n gyflogedig, rhaid i’ch cyflogwr gefnogi eich cais

Meini prawf dewis:

  • y cyfraniad y bydd yr ysgol yn ei wneud i'ch datblygiad proffesiynol
  • y gwahaniaeth y bydd yr ysgol yn ei wneud i chi a'ch sefydliad/prosiect
  • ymrwymiad i godi arian i gelfyddydau Cymru a rhannu'r gwersi o’r ysgol â’r sector
  • rhai na allent fynd fel arall

Dyddiad cau: 5pm, Llun 19 Ebrill


Byddwn ni’n rhoi gwybod i ymgeiswyr a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ar (neu cyn) dydd Gwener 30 Ebrill. Ond ni allwn roi adborth unigol am geisiadau