Bore coffi nesaf Gwybodfan Celf y DU yw:

2:00pm GMT | 11 Mawrth 2024

Pwnc: Teithio a gweithio yng Ngogledd Iwerddon

Ein cyfranwyr gwadd nesaf yw: 

Úna Boyd, Cyfreithiwr a Chydlynydd Prosiect Mewnfudo, The Committee on the Administration of Justice

 

Wedi Brexit mae Gogledd Iwerddon mewn sefyllfa unigryw gan eu bod yn rhan o’r DU ond hefyd yn rhannu ffin tir ag Iwerddon ac felly’r UE.

Ydych chi’n artist sy’n bwriadu teithio neu weithio yng Ngogledd Iwerddon neu sefydliad lleol sy’n croesawu artistiaid rhyngwladol? Efallai eich bod yn cynllunio taith ar draws ynys Iwerddon a/neu’r DU, ac yn ansicr beth sydd ei angen o ran fisas?

Mae’r sesiwn wybodaeth anffurfiol yma wedi’I hanelu at artistiaid a gweithwyr creadigol proffesiynol sy’n teithio i Ogledd Iwerddon ac sy’n ymwneud â gwaith tymor byr (e.e. cyd-gynhyrchiadau, rhan o daith, neu weithgaredd ar ei ben ei hun).

Bydd y sesiwn yma yn edrych ar fisa mewnfudo a gofynion mynediad ac yn rhoi cyd-destun i’r materion unigryw i’w hystyried wrth ddod i mewn i Ogledd Iwerddon.

Mae gan ddinasyddion Prydeinig a Gwyddelig yr hawl i weithio a symud yn rhydd ar draws Iwerddon a Phrydain o dan reolau Ardal Deithio Gyffredin (Common Travel Area CTA) heb fod angen fisas.

Felly, mae’r sesiwn yma yn fwy tebygol o fod o ddiddordeb i artistiaid rhyngwladol newydd y tu hwnt i’r DU ac Iwerddon.

Neu fe allech chi fod yn sefydliad, cynhyrchydd, hyrwyddwr neu asiant sy’n gweithio gydag artistiaid rhyngwladol sydd â chynlluniau i ymweld â Gogledd Iwerddon. 

Yn ddealladwy, mae symud nwyddau hefyd yn rhan o deithio a gweithio ar draws ffiniau, ond ni fyddwn yn rhoi sylw penodol iddo yn y sesiwn yma. Byddwn yn canolbwyntio ar symud pobl.  Bwriedir cynnal sesiwn yn y dyfodol ar symud nwyddau.

Bydd cyfle i ofyn cwestiynau, fodd bynnag ni fyddwn yn gallu rhoi cyngor ar achosion neu senarios unigol yn ystod y sesiwn yma.

Byddwn yn recordio’r sesiwn a fydd ar ein gwefan er mwyn cyfeirio ato ymhellach.