Blues Echoes
Y Brodyr Barnone: Mae Bill Taylor-Beales a Phil Okwedy yn ganwyr-gyfansoddwyr a storïwyr gydag angerdd am blethu cerddoriaeth, cân a geiriau gyda'i gilydd wrth fynd ar drywydd y cyflwr dynol.
Gallwch gael blas ar fythau, chwedlau, hanes cymdeithasol a straeon hunangofiannol, ar y cyd â cherddoriaeth a chân o'r traddodiad Blues hyd at y sîn gerddoriaeth gyfoes. Mae'r sioe yn archwilio themâu pobloedd wedi'u caethiwo, tlodi a phrotest dosbarth gweithiol, brwydr dyn yn erbyn y peiriant yn y 19eg a'r 20fed ganrif, a phrofiad cyfredol dynoliaeth yn yr 21ain ganrif, y cyfan yng ngoleuni'r traddodiad Blues/Spirituals fel catalydd o wytnwch a gobaith.
Dyddiadau Teithiau 2025:
Theatr Ffwrnes - 4 Medi - Llanelli
Tocynnau: theatrausirgar.co.uk – 0345 2263510
Span Arts - 5 Medi– Narbeth
Tocynnau: span-arts.ticketsolve.com - 01834869323
Elysium - 7 Medi - Abertawe
Tocynnau: Event Brite – Blues Echoes – Elysium
https://www.eventbrite.co.uk/e/blues-echoes-phil-okwedy-bill-taylor-beales-tickets-1554596954339#search
Chapter Arts - 13 Medi - Caerdydd
Tocynnau: Eventbrite - Blues Echoes - Chapter
https://www.eventbrite.co.uk/e/blues-echoes-tickets-1562688426149?aff=oddtdtcreator