Mae Canolfan S4C Yr Egin, canolfan greadigol a digidol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn falch iawn o lansio ‘Band Byw!’ - cyfres gyffrous o weithdai cerddoriaeth yr haf hwn, sy’n benodol ar gyfer pobl ifanc Blwyddyn 10 i 13.
Gyda dim ond 10 lle ar gael, dyma gyfle prin i ymuno â phrosiect unigryw sy’n meithrin hyder, creadigrwydd a sgiliau cerddorol drwy brofiad ymarferol.
Arweinir y gweithdai gan ddau adnabyddus o sîn cerddoriaeth Cymru heddiw – Mari Mathias, artist gwerin gyfoes ac enillydd Gwobr Gân Draddodiadol Orau yng Ngwobrau Gwerin y BBC 2023, a Steffan Rhys Williams, cyfansoddwr profiadol a chynhyrchydd cerddoriaeth deledu sydd â blynyddoedd lawer o brofiad yn gweithio gyda bandiau byw a’i stiwdios proffesiynolyn Yr Egin.
Mae’r prosiect yn gyfle i ysbrydoli pobl ifanc i sylweddoli bod ganddynt y gallu i greu cerddoriaeth a chaneuon gwreiddiol heb fod angen iddynt fedru ysgrifennu cerddoriaeth, darllen dots, arbenigo ar offeryn neu serennu yng nghôr yr ysgol. Mi fyddant yn dysgu bod yna ffyrdd amgen o gyfansoddi caneuon a dyma gyfle iddynt arbrofi a deall mwy am y broses sydd yn aml yn un cydweithredol. Bwriad y prosiect yw mwynhau a magu hyder wrth greu a pherfformio.
Yn ystod y sesiynau, bydd y bobl ifanc yn cael cyfle i:
- Gyfansoddi caneuon yn gydweithredol gydag arweiniad Mari Mathias
- Arbrofi gyda band byw a jamio gydag offerynnau o dan arweiniad Steffan Rhys Williams
- Dysgu technegau perfformio, recordio a chynhyrchu sain
- Ffilmio fideo cerddoriaeth proffesiynol dan arweiniad y cyfarwyddwyr creadigol Non Lewis a Heti Hywel
- Perfformio’n fyw mewn noson arbennig i ddathlu’r gwaith terfynol yng nghlwb CWRW, Caerfyrddin
Cynhelir y sesiynau yn stiwdios proffesiynol Yr Egin, gan ddefnyddio offer sain a fideo o’r radd flaenaf. Dyma gyfle i bobl ifanc brofi’r broses greadigol lawn – o’r syniad cyntaf i’r fideo gorffenedig!
Meddai Steffan Rhys Williams:
“Ar ôl dros 25ain o flynyddoedd yn gweithio fel cyfansoddwr a chynhyrchydd cerddoriaeth ym myd y cyfryngau, erbyn hyn ‘dwi wrth fy modd yn rhannu’r profiad dwi wedi enyn a gweld y gehedlaeth nesaf yn llwyddo.
“Fydd gweithio ar y cyd gyda Mari Mathias hefyd dwi’n meddwl yn ffantastic gan fod dull pob cyfansoddwr o gyfansoddi a chynhyrchu yn wahannol.
“Mae’r broses o gyfansoddi a llunio a chrefftio cân yn un mor amwys sy’n gwneud yr holl beth mor frawychus ond eto mor gyffrous.
“Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar i gael gweld beth fydd ffrwyth ein llafur ni erbyn diwedd y cwrs arbennig yma!”
Cynhelir y gweithdai yn ystod y diwrnodau canlynol:
- Gorffennaf 28 (Llun) | 10:00–15:00
- Gorffennaf 29 (Mawrth) | 10:00–15:00
- Awst 11 (Llun) | 10:00–15:00
- Awst 12 (Mawrth) | 10:00–15:00
Dywedodd Llinos Jones, Rheolwr Ymgysylltu Yr Egin:
“Rydym yn hynod falch o gynnig y cyfle arbennig hwn i bobl ifanc, bydd Band Byw! yn gyfle i ysbrydoli unigolion gan rhoi llwyfan iddynt i archwilio a datblygu eu sain cerddorol o dan arweiniad cyfansoddwyr a mentoriaid anhygoel yn Mari a Steffan – i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae hyn yn mynd law yn llaw â nod Yr Egin i greu cymuned ddiwylliannol gyffrous sy’n ysbrydoli cymunedau amrywiol ar draws y rhanbarth, ac i godi statws y Gymraeg a’i diwylliant mewn ffordd gyhoeddus, gyfoes ac egnïol yng Nghaerfyrddin a’r ardal gyfagos, gan ddatblygu ar brosiectau diweddar hynod llwyddiannus sef creu fidios cerddoriaeth Tanio ar y cyd â bandiau ifanc a chyfansoddi cân ar y cyd â chynllun Merched yn Gwneud Miwsig. Rydym yn hynod gyffrous i gael bwrlwm ac egni pobl ifanc yn llenwi’r ganolfan ac i gyfrannu at y sîn perfformio byw sydd ar dwf yn Sir Gâr. Diolch o galon i Tŷ Cerdd am y cyllid sydd wedi gwneud y cyfle arbennig hwn yn bosibl.”
Mi fydd dyddiad cau y ceisiadau ar y 4ydd o Orffennaf, a bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ar yr 11eg o Orffennaf. Cofrestrwch yma i wneud cais.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476