Tŷ Unnos
Comin Pontypridd, y Rhondda Cynon Taf
13-14 Hydref 2023
Creu lle i bobol ymgasglu, i deuluoedd chwarae, ac i bobol drafod beth mae ‘Cartref’ yn ei olygu ym Mhontypridd.
Ar fachlud haul nos Wener 13eg Hydref bydd bagad o bobol ifanc yn codi tŷ ar Gomin Coedpenmaen (Comin Pontypridd), fydd yn sefyll fel carreg filltir dros dro am bedair awr ar hugain gyda digwyddiadau i bobol gael ymgasglu, i deuloedd chwarae, ac i ddinasyddion sydd ag elfen ynddo drafod beth yw bod â lle yn y wlad y gallan nhw’i alw’n gartref.
Mae Tŷ Unnos yn rhan o lên gwerin Cymru. Yn ôl y chwedl, os oes yna do ar dŷ a mwg yn dod o’r simdde erbyn toriad dydd, caiff yr adeiladwr fyw yno a ffermio’r tir o’i gwmpas hyd y gall daflu bwyell o ddrws y tŷ.
Citrus Arts Pontypridd sy’n ail-greu’r llên gwerin a’r mewnosodyn celf ac yn trefnu’r digwyddiad ac sy’n cefnogi tîm o Gywion Celf ifainc i greu eu Tŷ Unnos eu hunain.
Pobol ifanc rhwng deunaw a deg ar hugain oed o bob cwr o Gymru ydi’r Cywion Celf, a chanddyn nhw beth profiad, neu ychydig iawn, o weithio yn niwydiant y celfyddydau a diwylliant ac sydd wedi wynebu llawer o rwystrau ar eu hynt, o ran arian, lleoliad a mynediad. Dros y tri mis aeth heibio mae’r Cywion Celf eisoes wedi cael profiad gwerth chweil o lygad y ffynnon o weithio ar ddigwyddiadau, dysgu profiadau technegaol ac adeiladu setiau yng Ngŵyl Adrodd Straeon Beyond the Border, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, yr Eisteddfod a llond gwlad o ddigwyddiadau lleol wedi’u trefnu gan Citrus Arts yn y Rhondda Cynon Taf.
Yn y cyfnod cyn yr adeiladu bydd y Cywion Celf hefyd yn gweithio gyda phobol o sectorau eraill gan gynnwys y tîm o adeiladwyr lleol Frowen Brothers, y technegwyr goleuo T&M Technical, a’r pensaer Tabitha Pope gyda myfyrwyr pensaernïaeth i ddylunio’r tŷ unnos.
“Mae’r brofiad gwych i mi, ac yn llinyn arall i’m bwa ar adeg pan dwi’n meddwl tybed be nesa” – Hannah Hunter, un o’r Cywion Celf
Bydd y gwaith o godi Tŷ Unnos yn cychwyn ar fachlud haul ar 13 Hydref, â Seremoni Torri Tir Newydd yn dechrau am hanner awr wedi chwech lle caiff y gunulleidfa weld codi’r tŷ, a pherfformiadau gan Syrcas Ieuenctid Citrus Arts, lluniadau tân, ystadfachwyr a cherddoriaeth fyw gan Fand Pres Cynhwysol Cathays a darn gwerin comisiwn arbennig gan Cerys Hafana.
Ddydd Sadwrn 14 Hydref caiff y gunulleidfa weld codi’r tŷ, ynghyd â gweithgareddau pnawn o ganol dydd ymlaen yn rhan o’r digwyddiad cymuned Torri Bara. Bydd yna weithgareddau teulu, gweithdai, cerddoriaeth fyw, a sgyrsiau tân gwersyll.
Ar fachlud haul nos Sadwrn, mae’r artist rhyngwladol Mark Anderson wedi creu profiad sain chwareus a swyngysgol o wewyr a seiniau symudol, ‘Nodau o Rybudd’ ar y cyd â Liam Walsh.
Seinfyd cyfareddol ydi Nodau o Rybudd sy’n bywiogi drwyddo drwy berfformiad byw awyr agored sy’n bythol newid. Gan ddefnyddio ensemble o ‘offerynnau’ gweledol drawiadol - gongiau, clychau, chwibanoglau a digwyddiadau ffrwydrol – mae Nodau o Rybudd yn rhoi llafar i’r braw cymdeithsol ac ecolegol sy’n crychleisio ar draws ein planed. Mae Nodau o Rybudd i’r dim i oedolion a phlant. Fe fydd yna Daith Gyffwrdd am chwarter i bedwar, Perfformiad Hamddenol am hanner awr wedi pedwar a pherfformiadiau Nodau o Rybudd o bump o’r gloch tan hanner awr wedi wyth. Bydd Mark a Liam hefyd yn rhedeg gweithdy gyda’r artist sain Ezra Grey yn rhan o’r penwythnos.
Mae Tŷ Unnos yn dwyn i ben raglen flwyddyn Citrus Arts o ddigwyddiadau, dosbarthiadau, gweithdai a pherfformiadau cymuned i gyd ar sail y thema CARTREF, yn dwyn ynghyd eu cymuned sef Pontypridd a’r Rhondda Cynon Taf.
Mae Citrus Arts yn ymroddedig i’w hawch am ddatblygu creadigedd i bob oed drwy rannu’r medrau a’r agwedd o lygad y ffynnon sy’n rhan hanfodol o fywyd syrcas deithiol – techneg, medrau, a medrau dyn sioe er mwyn llunio cymuned greadigol sad yn sir eu cartref.
“Gwerthoedd ein cymdogion, y to sy’n codi a’r hynafgwyr sy’n rhannu ein cartref yn Neuadd Gymuned Trehopcyn yw canllawiau gwaith Citrus Arts. Mae bagad o bobol ifanc yn codi tŷ ar Dir Comin yn ein hatgoffa o’n cyfrifoldebau tuag at y cenhedlaethau a ddêl ac ar yr un pryd yn neges i ddweud bod modd i lafur caled a chreadigedd ddod â chymunedau at ei gilydd mewn adfyd.”
Cyfarwyddwr Artistig Citrus Arts, James Doyle Roberts
“Mae hon yn fenter mor gyffrous ac yn gyfle pwysig i godi sgwrs ynghylch mynediad i dir, tai fforddiadwy a sut mae ar bobol eisiau byw. Hyfryd o beth fydd dwyn ynghyd fydau adeiladu a’r celfyddydau perfformio mewn man cyhoeddus lle gall y neb a fynn daro heibio a chael blas,” meddai Tabitha Hope, Pensaer.
“Rwyf wedi gweithio llawer ar ddylunio adeiladau dros dro ond erioed rhywbeth godwyd dros nos.
Nid peth hawdd mo dylunio adeilad y mae modd ei godi mor gyflym, yn enwedig liw nos, felly dyma benderfynu saernïo rhai o’r elfennau ymlaen llaw. Rydym yn gwneud rhyw lun o dŷ fflatpac y gellir ei gydosod yn gyflym ac yn hawdd gan dîm o bedwar o fewn tuag wyth awr. Bydd ganddo aelwyd a ffwrn llosgi coed felly fe fydd yna fwg yn dod o’r simdde erbyn toriad dydd!
Roedd arnom eisiau cadw ôl troed carbon y fenter cyn ised ag y bo modd, felly mae’r adeilad o goed dyfwyd yng ngwledydd Prydain ar goetiroedd wedi’u rheoli’n gynaliadwy.
Trista’r sôn fydd e fawr o dro ar ei draed ond gobeithio y bydd y fenter yn cael gan bobol sôn am dir comin a sut i ymorol bod cartref, waeth pa mor ddistadl, ar gael i bawb y mae arno’i eisiau a’i angen.”
“Mae Citrus Arts yn torri tir newydd ac yn afaelgar, ac yn creu celfyddyd ddeongliadol ddychmygus. Rydym mor falch o’u cael yn tyfu yn ein cymuned ac rydym ar dân o eisiau gweld y fenter newydd yma.” Y Cynghorydd Jayne Brechner o Gyngor Tref Pontypridd.
Mae Tŷ Unnos ar fynd o fachlud haul ar 13 Hydref tan wyth yr hwyr. Mae’r safle’n ailagor am ganol dydd ar 14 Hydref ar Gomin Coedpenmaen (Comin Pontypridd), Pontypridd, a digwyddiadau am ddim drwy’r pnawn. Mae’r digwyddiadau i gyd am ddim ond doeth o beth cadw tocynnau ymlaen llaw drwy Citrus Arts ac Eventbrite gan mai hyn a hyn o lefydd sydd yn rhai o’r digwyddiadau. Bydd bwyd a lluniaeth ar gael ar y safle.
Mae tocynnau a rhagor o wybodaeth am y rhaglen ar gael yn citrusarts.co.uk
Cyflwynir Tŷ Unnos a Nodau o Rybudd ar y cyd â Chyngor Tref Pontypridd gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.