Mae Ramps Cymru (teitl gweithredol) yn bartneriaeth newydd sy’n cynnwys Theatr y Sherman, Canolfan Celfyddydau Pontio, Theatr y Torch, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Theatr Clwyd.



Nod Ramps Cymru yw rhoi newid ystyrlon a chynaliadwy ar waith i wella cynrychiolaeth pobl anabl (gan gynnwys pobl Fyddar, niwrowahanol a phobl ag anableddau dysgu) ar draws y sector theatr prif ffrwd yng Nghymru.



Cawsom gyllid gan raglen Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru i gyflogi Sara Beer fel Cyfarwyddwr Newid ac, o ganlyniad i’r adolygiad buddsoddi diweddar, rydym wedi derbyn cyllid strategol pellach i ymestyn y fenter i fod yn rhaglen hirdymor.

Rydym nawr eisiau cyflogi 5 Asiant dros Newid rhan amser i ddatblygu'r cyfle unigryw yma gyda'r sefydliadau partner. Bydd cael Asiantau dros Newid yn gweithio ym mhob lleoliad partner yn cynorthwyo gyda’r newid sefydliadol rydym eisiau ei weld ar draws y sector theatr yng Nghymru.

Bydd y swyddi’n cael eu cynnig i’r rhai sy’n nodi eu bod yn Fyddar, yn anabl neu’n niwrowahanol ac sydd ag angerdd dros greu newid o fewn y sector theatr yng Nghymru.

Bydd yr Asiantau’n cael eu cyflogi gan Theatr Clwyd ond yn cael eu rheoli gan y Cyfarwyddwr dros Newid ac aelod o dîm arwain y partneriaid. Byddant wedi'u lleoli mewn lleoliad partner o'u dewis ond bydd cyfleoedd i weithio'n agos gyda'r Asiantau mewn lleoliadau eraill, felly mae parodrwydd i deithio ledled Cymru yn ddymunol.

Dyddiad cau: 16/02/2024