Mae WNO yn rhannu grym cerddoriaeth glasurol ac opera fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn lle creadigol a llawn ysbrydoliaeth ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth symud ymlaen â'n blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.
Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Arweinydd Cyfathrebu Strategol er mwyn gyrru strategaeth gyfathrebu Opera Cenedlaethol Cymru a chwarae rhan hanfodol yn llunio sut rydym yn ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd, rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn ehangach. Mae'r rôl hon yn ganolog i gyfathrebu ein gweledigaeth artistig, atgyfnerthu ein brand, a sicrhau bod ein stori'n cael ei dweud gydag eglurder, creadigrwydd a thraweffaith.
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?
- Datblygu a gweithredu strategaethau cyfathrebu effeithiol sy'n alinio gyda gweledigaeth ac amcanion WNO.
- Rheoli cysylltiadau gyda'r wasg, gan fod yn weithredol wrth ddatblygu cyfleoedd newydd a goruchwylio safon holl ddeunydd y wasg.
- Arwain ar gyfathrebu mewn argyfwng, rheoli enw da, a materion cyhoeddus, gan gynnwys ymgysylltu gyda rhanddeiliaid gwleidyddol yng Nghymru a thu hwnt.
- Adeiladu a chynnal perthnasoedd gyda chynghorau celfyddydau, sefydliadau diwylliannol, cyrff o fewn y diwydiant, rhoddwyr noddwyr a phartneriaid corfforaethol.
- Goruchwylio cyfathrebiadau mewnol er mwyn cadw cydweithwyr wedi'i diweddaru ac yn teimlo'n rhan o bethau, gan gefnogi diwylliant agored a chydweithredol.
- Bod yn rheolwr llinell i'r Rheolwr Cyfathrebu a goruchwylio'r gyllideb cyfathrebu.
- Cynrychioli WNO mewn cyfarfodydd allanol, fforymau a digwyddiadau yn y sector gan eirioli dros y Cwmni a'r celfyddydau yn ehangach.
- Monitro perfformiad cyfathrebu, gan sicrhau bod brand yn cael ei ddefnyddio'n gyson ar draws yr holl ddeunyddiau.